Steven Spielberg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Steven Spielberg
Spielberg99.jpg
Steven Spielberg yn 1999
Geni 18 Rhagfyr, 1946
Cincinnati, Ohio, UDA
Enwau eraill Steven Allen Spielberg
Enwog am Jaws, E.T. the Extra-Terrestrial, Jurassic Park
Galwedigaeth Cyfarwyddwr ffilm


Cyfarwyddwr Ffilm yw Steven Allen Spielberg KBE (ganwyd 18 Rhagfyr 1946, Cincinnati, Ohio, UDA). Yn 2006, rhestrodd cylchgrawn Premiere ef fel y person mwyaf pŵerus a dylanwadol ym myd ffilmiau. Rhestrodd cylchgrawn Time ef fel un o'r 100 o Bobl Mwyaf y Ganrif. Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, cafodd ei enwi gan gylchgrawn Time fel un o gymeriadau mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd, mae ffilmiau Spielberg wedi ymdrin â nifer o themâu gwahanol. Gwelwyd ffilmiau cynharaf Spielberg, sef ffilmiau gwyddonias ac antur (yn aml yn canolbwyntio ar blant), fel y ddelfryd o ffilmiau mawrion Hollywood. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, dechreuodd ei ffilmiau ymdrin â themâu fel yr holocost, caethwasiaeth, rhyfel a therfysgaeth.

Enillodd Spielberg Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau am Schindler's List (1993) a Saving Private Ryan (1998). Torrodd tair o ffilmiau Spielberg y record mewn sinemau am faint o arian a wnaethant, sef Jaws (1975), E.T. the Extra-Terrestrial (1982), a Jurassic Park (1993).

[golygu] Ei fywyd cynnar

Ganwyd Spielberg yn Cincinnati, Ohio, i deulu Iddewig. Perchennog bwyty a phianydd oedd ei fam, Leah Adler, tra bod ei dad Arnold Spielberg yn beirianydd trydanol a weithiai yn datblygu cyfrifiaduron.[1] Treuliodd ei blentyndod yn Haddon Heights, New Jersey a Scottsdale, Arizona, un o faesdrefi mawr Phoenix. Trwy gydol ei arddegau, creodd Spielberg ffilmiau 8mm amatur gyda'i ffrindiau. Ffilmiwyd y cyntaf o'r ffilmiau hyn ym mwyty Pinnacle Peak Patio yn Scottsdale. Cododd dâl o 25 cent i weld ei ffilmiau tra byddai ei chwaer yn gwerthu popcorn.

Ym 1958, daeth Spielberg yn scowt a derbyniodd fathodyn anrhydedd am greu ffilm 8mm naw munud o hyd o'r enw The Last Gunfight.[2] Mewn cyfweliad ag ef flynyddoedd yn hwyrach, cofiodd Spielberg yn ôl at y cyfnod a dywedodd, "My dad's still-camera was broken, so I asked the scoutmaster if I could tell a story with my father's movie camera. He said yes, and I got an idea to do a Western. I made it and got my merit badge. That was how it all started."[3] Pan yn 13 oed, enillodd Spielberg wobr am ffilm ryfel 40 munud o hyd o'r enw Escape to Nowhere. Ym 1963, pan oedd yn 16, ysgrifennodd a chyfarwyddodd Spielberg ei ffilm annibynnol gyntaf, ffilm antur gwyddonias 140-munud o'r enw Firelight (a oedd wedi ysbrydoli Close Encounters yn ddiweddarach). Dangoswyd y ffilm, a wnaed ar gyllideb o UDA$500, yn ei sinema leol a gwnaeth elw o $1.00.[angen ffynhonnell] Gwnaeth nifer o ffilmiau o'r Ail Ryfel Byd hefyd yn seiliedig ar hanesion rhyfel ei dad.

[golygu] Ffilmiau

Cyfarwyddwr

[golygu] Cyfeiriadau

Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill