Economi wleidyddol ryngwladol

Oddi ar Wicipedia

Disgyblaeth academaidd o fewn y gwyddorau cymdeithas sy'n dadansoddi cysylltiadau rhyngwladol ynghyd ag economi wleidyddol yw economi wleidyddol ryngwladol (IPE) neu economi wleidyddol fyd-eang. Fel maes rhyngddisgyblaethol mae'n tynnu ar nifer o ysgolion academaidd neilltuol, yn bennaf gwyddor gwleidyddiaeth ac economeg, ond hefyd cymdeithaseg, hanes, ac astudiaethau diwylliannol. Mae ffiniau academaidd IPE yn hyblyg, ac ynghyd ag epistemolegau derbyniol yn destun i ddadleuon cryf. Ffurfir y ddadl dros IPE gan statws y ddisgyblaeth fel maes astudiaeth newydd a rhyngddisgyblaethol.

Er y fath anghydfodau, cytuna'r mwyafrif o ysgolheigion taw ffocws IPE yn y bôn yw'r ffyrdd y mae grymoedd gwleidyddol (gwladwriaethau, sefydliadau, gweithredyddion unigol, ayyb) yn siapio'r systemau sydd yn mynegi rhyngweithiadau economaidd, ac yr effeithiau sydd gan ryngweithiadau economaidd (gan gynnwys galluoedd marchnadau cyfunol ac unigolion sydd yn gweithredu o fewn ac y tu allan iddynt) ar strwythurau a chanlyniadau gwleidyddol.

Mae ysgolheigion IPE yng nghanol y ddadl a'r ymchwil ynghylch globaleiddio, yn y meysydd poblogaidd ac academaidd. Mae pynciau eraill sy'n derbyn cryn sylw gan ysgolheigion IPE yn cynnwys masnach ryngwladol (yn enwedig y wleidyddiaeth sy'n ymwneud â chytundebau masnach, ond hefyd gwaith sylweddol sy'n dadansoddi canlyniadau cytundebau masnach), datblygiad, y berthynas rhwng democratiaeth a marchnadau, arianneg ryngwladol, marchnadau byd-eang, cydweithrediad amlwladwriaethol wrth ddatrys problemau economaidd ar draws ffiniau, a'r cydbwysedd grym strwythurol rhwng ac o fewn gwladwriaethau a sefydliadau. Yn wahanol i astudiaeth gonfensiynol cysylltiadau rhyngwladol, deallir grym yn nhermau economaidd yn ogystal â gwleidyddol, sydd yn gyd-gysylltiedig mewn modd cymhleth.