Materion yng nghysylltiadau rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Materion rhyngwladol)
Neidio i: llywio, chwilio

Pwnc cyfoes yw mater yng nghysylltiadau rhyngwladol neu fater rhyngwladol sydd yn tynnu sylw'r rhai sydd yn weithredol o fewn cysylltiadau rhyngwladol yn ogystal â'r rhai sydd yn ei astudio, ac hefyd yn galw am ddefnydd adnoddau o ryw ffurf gan weithredyddion.[1] Y deipoleg gyntaf i ddosbarthu materion gwleidyddol oedd yn nhermau mewnwladol neu ryngwladol, dull gwladwriaeth-ganolog oedd yn gydnaws â chydweddiad y peli biliards. Ehangwyd ar hyn trwy geisio gwahanu materion i gategorïau gwleidyddiaeth uchel ac isel, lle nad yw materion "uchel" o reidrwydd yn y materion pwysicaf ond y materion sydd yn pennu'r amgylchedd i faterion "isel" ddigwydd. Gwleidyddiaeth uchel, felly, yw sicrhau diogelwch cenedlaethol a chynnal yr amgylchedd ddiplomyddol ryngwladol.[2] Caiff y ddau ddosbarthiad hyn eu herio'n fwyfwy. Ystyrid bod nifer o faterion, yn enwedig yn wyneb globaleiddio, yn pontio'r meysydd mewnwladol ac rhyngwladol ac felly'n amhosib eu categoreiddio yn ôl y deipoleg gyntaf. Yn ail dadleua rhai bod y dosbarthiad uchel-isel yn annefnyddiol gan bod rhai digwyddiadau "isel" yn peri cymaint o fygythiad â digwyddiadau milwrol neu ddiplomyddol. Er enghraifft, i Zaire roedd argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr yn gymaint o fygythiad i ddiogelwch y wladwriaeth ag os oedd y miliynau o ffoaduriaid o Rwanda a Bwrwndi yn fyddin ymosodol.[3] Bellach ni cheir cymaint o bwyslais ar ddosbarthu materion rhyngwladol yn ôl eu math.[4]

Cynnwys

Yr amgylchedd [golygu]

Tan y 1960au roedd gwleidyddiaeth amgylcheddol ryngwladol yn gyfyngedig, ond ers hynny mae materion amgylcheddol wedi dod yn amlwg iawn yng nghysylltiadau rhyngwladol wrth i broblemau amgylcheddol megis newid hinsawdd a diffyg cynaladwyedd gwaethygu.[5] Mae'r gymuned ryngwladol wedi ymateb trwy geisio darparu llywodraethiant amgylcheddol ar lefel fyd-eang trwy gydweithrediad rhwng gwladwriaethau[6] ond mae ymgeision i sicrhau rheoleiddio ar draws ffiniau wedi gwrthdaro rhywfaint â rheolau'r drefn fasnach fyd-eang.[7] Mae ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol yn fwyfwy ystyried materion amgylcheddol wrth geisio ddynodi'r amodau y ceir cydweithrediad rhyngwladol effeithiol oddi tanynt, ac hefyd i astudio'r gogwydd newydd o fewn disgyrsiau academaidd, gwleidyddol, a phoblogaidd o drin materion amgylcheddol fel materion diogelwch.[8]

Cenedlaetholdeb [golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Datblygiad [golygu]

Prif erthygl: Datblygiad rhyngwladol.

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diwylliant a chrefydd [golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Iechyd [golygu]

Yn sgil globaleiddio, mae polisi iechyd yn fwyfwy cysylltiedig â pholisi tramor a diogelwch cenedlaethol.[9] Blaenoriaethau'r agenda iechyd ryngwladol yw HIV/AIDS, bioderfysgaeth, a chlefydau pandemig megis SARS a ffliw'r moch.

Moeseg ryngwladol [golygu]

Prif erthygl: Moeseg ryngwladol.
Tŵr Ušće ar dân yn Beograd, Serbia, ym 1999 o ganlyniad i ymgyrch fomio gan luoedd NATO. Roedd yr ymgyrch yn enghraifft honedig o ymyrraeth ddyngarol, pwnc dadleuol iawn o fewn moeseg ryngwladol.

Mae moeseg ryngwladol yn ymwneud â materion moesegol o fewn cysylltiadau rhyngwladol, yn bennaf dyletswyddau y gweithredyddion amrywiol trwy wahaniaethau rhwng mewnwyr ac allanwyr, ac i ba raddau y mae safonau moesegol yn gymwys at y ddwy grŵp hon. Ymhlith ei phryderon yw cysyniadau o hawliau dynol, ymyrraeth, a rhyfel (gan gynnwys targedu sifiliaid a'r rhyfel cyfiawn).

Mudo, ffoaduriaid a phoblogaethau [golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Rhanbartholdeb [golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Terfysgaeth [golygu]

Tyrau Canolfan Masnach y Byd ar dân yn Ninas Efrog Newydd ar 11 Medi 2001

Er bu gan derfysgaeth hanes hir cyn yr unfed ganrif ar hugain, dim ond ar ôl ymosodiadau 11 Medi 2001 gan Al-Qaeda ar yr Unol Daleithiau a'r datganiad yn dilyn o Ryfel yn erbyn Terfysgaeth y daeth terfysgaeth yn fater rhyngwladol i lywodraethau ac academyddion.[10][11] Ynghynt ystyriwyd terfysgaeth yn fater mewnwladol ond bellach mae globaleiddio wedi ei gwneud yn fygythiad i ddiogelwch rhyngwladol yn ogystal â diogelwch cenedlaethol.[10]

Trosedd a llygredigaeth [golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. White, Little a Smith, t. 5.
  2. White, Little a Smith, t. 9.
  3. White, Little a Smith, t. 10.
  4. White, Little a Smith, t. 11.
  5. Vogler, t. 356.
  6. Vogler, t. 353.
  7. Vogler, t. 360.
  8. Vogler, t. 366.
  9. Owen, John W.; Roberts, Olivia (2005). "Globalisation, health and foreign policy: emerging linkages and interests". Globalization and Health 1 (12). doi:10.1186/1744-8603-1-12. http://www.globalizationandhealth.com/content/1/1/12. Adalwyd 23 Hydref 2012. 
  10. 10.0 10.1 Dunne, t. 257.
  11. Dunne, t. 258.

Ffynonellau [golygu]

Dunne, Tim (2005). "Terrorism", gol. White, Brian; Little, Richard; Smith, Michael: Issues in World Politics. Palgrave Macmillan

Vogler, John (2008). "Environmental issues", gol. Baylis, John; Smith, Steve; ac Owens, Patricia: The Globalization of World Politics. Gwasg Prifysgol Rhydychen

White, Brian; Little, Richard; a Smith, Michael (2005). "Issues in World Politics", gol. White, Brian; Little, Richard; Smith, Michael: Issues in World Politics. Palgrave Macmillan

Darllen pellach [golygu]

  • Salmon, Trevor C. a Imber, Mark F. (gol.) (2008). Issues in International Relations. Routledge
Yr amgylchedd
  • Seckinelgin, Hakan (2006). The Environment and International Politics. Routledge