Realaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)
Damcaniaeth o fewn maes cysylltiadau rhyngwladol sy'n pwysleisio pwysigrwydd gwleidyddiaeth grym a natur gystadleuol cysylltiadau rhyngwladol yw realaeth. Mae realwyr yn gweld buddiannau'r wlad fel grym gyrru gwladwriaethau ar lwyfan y byd.
Realaeth yw'r safbwynt damcaniaethol hynaf ym maes cysylltiadau rhyngwladol. Damcaniaeth wladwriaeth-ganolog yw hi a fynegir yn aml trwy fodel y peli biliards.[1] Rhoddir pwyslais hefyd ar y cysyniad o anllywodraeth o fewn y system ryngwladol a'r angen am gydbwysedd grym i gadw trefn ryngwladol.
Cynnwys |
Hanes[golygu]
Mae gan y traddodiad realaidd ei wreiddiau mewn gwaith llenorion megis Thucydides, Niccolò Machiavelli, a Thomas Hobbes. Datblygodd realaeth "glasurol" yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, ynghŷd ag esgyniad pwnc cysylltiadau rhyngwladol i academia. Roedd gwaith E. H. Carr a Hans Morgenthau yn allweddol.
Neo-realaeth[golygu]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gweler hefyd[golygu]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Steans, Pettiford, a Diez, t. 49.
ffynonellau[golygu]
- Steans, Jill; Pettiford, Lloyd; a Diez, Thomas (2005). Introduction to International Relations: Perspectives and Themes. Pearson