Daearyddiaeth yr Ariannin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map yr Ariannin

Gellir rhannu'r Ariannin yn dri darn: gwastadedd ffrwythlon y Pampas dros hanner gogleddol y wlad, calon cyfoeth amaethyddol yr Ariannin; y llwyfandir Patagonia yn hanner de'r wlad ac yn ymestyn i lawr i ynys Tierra del Fuego; a mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin.

Pampa[golygu]

Prif erthygl: Pampa

Y Pampas yw'r gwastadeddau ffrwythlon yn iseldiroedd De America sy'n cynnwys taleithiau Buenos Aires, La Pampa, Santa Fe, a Córdoba yn yr Ariannin, ynghyd a rhannau o Uruguay a phwynt deheuol Brasil. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol, gyda rhwng 600 a 1,200 mm o law, sy'n syrthio trwy'r flwyddyn ac sy'n gwneud y pridd yn addas ar gyfer amaethyddiaeth.

Oherwydd y tanau niferus sy'n torri allan yn lleol, dim ond planhigion llai fel gwair sy'n tyfu yno a phrin yw'r coed. Mae "Gwair Pampas" (Cortaderia selloana) yn blanhigyn sy'n nodweddiadol o'r Pampas. Mae'r Pampas yn gartref i ystod eang o rywogaethau brodorol eraill, ac eithrio coed brodorol, sydd ddim ond i'w cael ar hyd yr afonydd.

Mae'r Pampas Gwlyb yn cynnwys dwyrain talaith Buenos Aires, a de talaith Entre Rios. Mae'r Pampas Sych, lled-anial, yn cynnwys gorllewin talaith Buenos Aires a rhannau o dalaith Santa Fe, Cordoba, a La Pampa yn yr Ariannin. Mae'r Pampas yn ffinio ar weirdiroedd espinal yr Ariannin.

Gran Chaco[golygu]

Prif erthygl Gran Chaco

Saif y Gran Chaco rhwng afonydd Paraguay a Paraná a'r Altiplano yn yr Andes. Rhennir yr ardal rhwng yr Ariannin, Bolifia, Brasil a Paraguay. Gwastadtir eang yw'r ardal. Y gwahaniaeth rhwng y Gran Chaco a'r Pampa yw fod nifer sylweddol o goed yn y Gran Chaco. Fe'i rhennir yn dri rhan:

Patagonia[golygu]

Prif erthygl: Patagonia

Mae rhan yr Ariannin o Batagonia yn ymestyn i'r de o Afon Colorado, ac yn cynnwys taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz a Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd.

Yng ngorllewin Patagonia, ceir yr Andes. Yn y dwyrain, mae llwyfandir Patagonia, paith gwasatad sy'n gyfres o derasau. Yma, mae llawer llai o law, ac mae rhannau o'r llwyfandir yn anialwch.

Yr Andes[golygu]

Prif erthygl: Andes

Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Chile ac Ariannin, Y mynydd uchaf yw Aconcagua, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr - y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia.

Mynyddoedd uchaf yr Ariannin yw:

Afonydd[golygu]

Mae'r prif afonydd yn cynnwys y Paraguay, Bermejo, Colorado, Uruguay a'r hwyaf, y Paraná. Mae'r ddwy olaf yn ymuno â'i gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y Río de la Plata (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn dymherus gan fwyaf, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y de pell.