Talaith Córdoba (Ariannin)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Talaith Córdoba

Talaith yn yr Ariannin yw Córdoba. Saif yng nghanol y wlad, ac mae'n ffinio ar dalaithiau Catamarca a Santiago del Estero yn y gogledd, ar dalaith Santa Fe yn y dwyrain, Buenos Aires yn y de-ddwyrain, talaith La Pampa yn y de a thalaithiau San Luis a La Rioja yn y gorllewin. Córdoba yw enw prif ddinas y dalaith hefyd.

Gydag arwynebedd o 165,321 km², saif Córdoba yn bumed ymhlith taleithiau'r Ariannon. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 3,340,041, yr ail fwyaf o daleithiau'r Ariannin; gyda 1,267,521 (41,9%) o'r rhain yn byw yn ardal ddinesig Córdoba.


Taleithiau'r Ariannin Baner yr Ariannin
Dinas Ffederal | Buenos Aires | Catamarca | Chaco | Chubut | Córdoba | Corrientes | Entre Ríos | Formosa | Jujuy | La Pampa | La Rioja | Mendoza | Misiones | Neuquén | Río Negro | Salta | San Juan | San Luis | Santa Cruz | Santa Fe | Santiago del Estero | Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd | Tucumán