Coron Sant Edward

Oddi ar Wicipedia

Coron Sant Edward yw canolbwynt Trysorau'r Goron y Deyrnas Unedig.[1] Cafodd ei enwi ar ôl Sant Edward y Cyffeswr, ac fe'i defnyddiwyd yn draddodiadol i goroni brenhinoedd Lloegr a Phrydain ers y 13eg ganrif.

Roedd y goron wreiddiol yn grair sanctaidd a gadwyd yn Abaty Westminster, lle claddwyd Edward, nes iddo gael ei werthu neu ei doddi i lawr pan ddiddymodd y Senedd y frenhiniaeth ym 1649, yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Cafodd y fersiwn bresennol o Goron Sant Edward ei greu ar gyfer Siarl II ym 1661. Mae'n aur solet, gyda thaldra o 30cm (12in), ac yn pwyso 2.23kg (4.9lb). Mae wedi'i addurno â 444 o feini gwerthfawr a lled-werthfawr. Mae'r goron presennol yn debyg o ran pwysau ac ymddangosiad cyffredinol i'r gwreiddiol, ond mae ei bwâu yn Faróc.

Ar ôl 1689, ni chafodd ei ddefnyddio i goroni brenin neu frenhines am dros 200 mlynedd. Yn 1911, adfywiwyd y traddodiad gan Siôr V, ac mae'r holl frenhinoedd dilynol wedi cael eu coroni gan ddefnyddio Coron Sant Edward. Defnyddir delwedd o'r goron hon ar arfbeisiau, bathodynnau, logos ac amryw arwyddluniau eraill yn wledydd y Gymanwlad i symboleiddio awdurdod brenhinol y Frenhines Elisabeth II.

Pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, mae Coron Sant Edward yn cael ei harddangos yn gyhoeddus yn y Jewel House yn Nhŵr Llundain.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae Coron Sant Edward wedi'i greu o aur 22-carat, gyda chylchedd o 66cm (22in),[2] taldra o 30cm (12in), ac yn pwyso 2.23km (4.9lb). Mae ganddo bedwar fleurs-de-lis a phedwar croes pattée, sy'n cynnal dau fwa wedi'u trochi gyda monde (pelen) a chroes-battée - mae'r bwâu a'r belen yn arwydd o goron ymerodrol. Mae ei gap melfed porffor wedi'i docio ag ffwr carlwm. Mae wedi ei osod gyda 444 o feini gwerthfawr a lled-werthfawr, gan gynnwys 345 morlasfaen (aquamarine), 37 topas gwyn, 27 trydanfaen (tourmalines), 12 rhuddem, 7 amethyst, 6 saffir, 2 jargoon, 1 garned, 1 sbinel ac 1 carbwncl.[3]

Defnydd[golygu | golygu cod]

Er ei bod yn cael ei hystyried y goron swyddogol ar gyfer y coroni, dim ond chwe brenin sydd wedi eu coroni â Choron Sant Edward ers yr Adferiad: Siarl II (1661), Iago II (1685), William III (1689), Siôr V (1911), Siôr VI (1937) ac Elisabeth II (1953). Ar gyfer Mary II ac Anne defnyddiwyd coronau diemwnt bach eu hunain; ar gyfer Siôr I, Siôr II, Siôr III a William IV defnyddiwyd Coron Wladwriaeth Siôr I; ar gyfer Siôr IV defnyddiwyd coron diemwnt fawr newydd wedi'i greu'n arbennig ar gyfer yr achlysur; ac fe wnaeth y Frenhines Victoria ac Edward VII dewis peidio â defnyddio Coron Sant Edward oherwydd ei bwysau ac yn lle hynny defnyddion nhw fersiwn ysgafnach o Goron y Wladwriaeth Ymerodrol a chrëwyd ym 1838. Pan na chaiff ei ddefnyddio i goroni’r brenin neu'r frenhines, mae Coron Sant Edward yn cael ei osod ar yr allor yn ystod y coroni; fodd bynnag, ni ymddangosodd y goron o gwbl yng nghoroni'r Frenhines Victoria.[4]

Mewn herodraeth[golygu | golygu cod]

Defnyddir Coron Sant Edward yn helaeth fel arwyddlun herodrol y Deyrnas Unedig, gan gael ei ymgorffori mewn llu o arwyddluniau. Gan fod y Deyrnas Unedig yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gyda llywodraeth gyfrifol, gall y goron hefyd symboleiddio "sofraniaeth (neu awdurdod) y frenhiniaeth." Maent i'w weld ar y Lythyrbleth Brenhinol; Arfbais Frenhinol y Deyrnas Unedig; Bathodynnau Brenhinol Lloegr ; a bathodynnau heddluoedd Cymru a Lloegr, Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi, Byddin Prydain, y Môr-filwyr Brenhinol a'r Llu Awyr Brenhinol. Mae hefyd yn ffurfio logo'r Post Brenhinol, gwasanaeth post y Deyrnas Unedig.[5] (Yn yr Alban, gall Coron yr Alban ymddangos yn lle Coron Sant Edward).

Hanes[golygu | golygu cod]

Tarddiad[golygu | golygu cod]

Y Brenin Edward y Cyffeswr yn gwisgo coron yn olygfa gyntaf y Brodwaith Bayeux

Gwisgodd Edward y Cyffeswr ei goron adeg y Pasg, y Sulgwyn a'r Nadolig.[6] Ym 1161, cafodd ei wneud yn sant, a daeth gwrthrychau sy'n gysylltiedig â'i deyrnasiad yn greiriau sanctaidd. Honnodd y mynachod yn ei gladdfa yn Abaty Westminster fod Edward wedi gofyn iddynt edrych ar ôl ei deyrndlysau am byth, ar gyfer coroni holl frenhinoedd Lloegr yn y dyfodol.[7] Er bod yr honiad yn debygol o fod yn ffordd i'r abaty masnachu'i hun, cafodd ei dderbyn yn ffaith, ac felly'n sefydlu'r set hysbys cyntaf o deyrndlysau coroni etifeddol yn Ewrop.[8] Defnyddir coron y cyfeirir ati fel Coron Sant Edward yn gyntaf ar gyfer coroni Harri III ym 1220, ac ymddengys mai hon yw'r un goron a wisgodd Edward.[9]

Crair Sanctaidd[golygu | golygu cod]

Disgrifiad cynnar o'r goron yw "Coron y Brenin Alfred o waith gwifren aur wedi'i osod gyda cherrig bach a dwy gloch fach", sy'n pwyso 2.25kg (79.5 owns) ac yn werth cyfanswm o £248.[10] Weithiau fe'i helwir yn Goron y Brenin Alfred oherwydd arysgrif ar gaead ei focs, a ddarllenodd, o'r cyfieithiad o'r Lladin: "Dyma brif goron y ddau, a goronwyd yn Frenhinoedd Alfred, Edward ac eraill". Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth i gefnogi ei fod yn dyddio o amser Alfred, ac yn y gorchymyn coroni cyfeiriwyd ato bob amser fel Coron Sant Edward.[11]

Anaml y byddai Coron Sant Edward yn gadael Abaty Westminster, ond pan orfodwyd Rhisiart II i ymwrthod ym 1399, daethpwyd â'r goron i Dŵr Llundain, lle'r oedd rhaid i Rhisiart ei rhoi'n symbolaidd i Harri IV, gan ddweud "Rwy'n cyflwyno ac yn rhoi i chi'r goron hon, y coronwyd fi yn frenin Lloegr, a'r holl hawliau sy'n ddibynnol arni".[12]

Fe'i defnyddiwyd ym 1533 i goroni ail wraig Harri'r VIII, Anne Boleyn - digynsail ar gyfer brenhines gydweddog.[13] Yng nghyfnod y Tuduriaid, gosodwyd tair coron ar bennau brenhinoedd wrth goroni: Coron Sant Edward, Coron y Wladwriaeth, a "choron gyfoethog" a wnaed yn arbennig ar gyfer y brenin neu'r frenhines.[14] Ar ôl y Diwygiad Seisnig, terfynodd Eglwys Loegr dwysbarchu creiriau canoloesol a, gan ddechrau gyda choroni Edward VI ym 1547, roedd arwyddocâd Coron Sant Edward fel crair sanctaidd wedi'i fychanu yn ystod y seremoni.[15]

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, gwerthodd y Senedd Coron Sant Edward, ac roedd Oliver Cromwell yn ei ystyried fel symbol o "reol frenhinoedd ffiaidd".[16]

Adferiad[golygu | golygu cod]

Coron Sant Edward wrth iddi edrych yng nghoroni Iago II ym 1685

Adferwyd y frenhiniaeth ym 1660 ac wrth baratoi ar gyfer coroni Siarl II, a oedd wedi bod yn fyw dramor, crëwyd Coron Sant Edward newydd gan yr Eurych Brenhinol, Syr Robert Vyner. Ffasiynwyd yn debyg iawn i'r goron ganoloesol, gyda sylfaen aur drom a chlystyrau o feini lled-werthfawr, ond mae'r bwâu nawr yn Faróc.[17]

Ar ddiwedd yr 20fed ganrif, tybiwyd ei fod wedi'i greu o aur y Goron Sant Edward wreiddiol, gan eu bod bron yn union yr un pwysau, ac ni chynhyrchwyd anfoneb ar gyfer y deunyddiau ym 1661. Hefyd arddangoswyd coron wrth i Oliver Cromwell gorwedd yn gyhoeddus. Ar bwysau'r dystiolaeth hon, gwnaeth yr awdur a'r hanesydd Martin Holmes, mewn papur ar gyfer Archaeologia ym 1959, dod i'r casgliad bod Coron Sant Edward gwreiddiol wedi'i achub rhag toddi, a ddefnyddiwyd ei aur i wneud coron newydd ar gyfer yr Adferiad. [18]

Yn 1671, fe wnaeth Thomas Blood ddwyn y goron o Dŵr Llundain dros dro, gan ei fflatio â morthwyl mewn ymgais i'w chuddio.[19] Crëwyd monde newydd ar ei gyfer, ar gyfer coroni Iago II. Ar gyfer coroni William III newidiwyd y sylfaen o gylch i hirgrwn.[20] Ar ôl coroni William III ym 1689, dewisodd brenhinoedd i'w coroni gyda choronau ysgafnach a chrëwyd yn bwrpasol iddynt,[21] neu eu gyda Choron y Wladwriaeth, tra roedd Coron Sant Edward fel arfer yn gorffwys ar yr allor uchel.[22]

20fed ganrif hyd heddiw[golygu | golygu cod]

Monogram Elisabeth II

Roedd Edward VII yn bwriadu adfywio'r traddodiad o gael ei goroni â Choron Sant Edward ym 1902, ond ar ddiwrnod y coroni roedd yn dal i wella ar ôl cael llawdriniaeth am lid y coluddyn crog, ac yn lle hynny fe wisgodd y Goron y Wladwriaeth Ymerodrol gan ei fod yn ysgafnach.[23]

Hyd at 1911 llogwyd tlysau i'w defnyddio yn y goron a'u symud ar ôl y coroni. Yn 1911 gafodd ei osod yn barhaol gyda 444 o feini gwerthfawr a lled-werthfawr. Disodlwyd perlau ffug ar y bwâu a'r sylfaen â pheli aur a oedd ar y pryd wedi'i orchuddio â phlatinwm.[3] Hefyd cafodd fand y goron ei lleihau i ffitio Siôr V, y brenin gyntaf i gael ei goroni â Choron Sant Edward mewn dros 200 mlynedd. Gwnaeth hyn leihau pwysau cyffredinol y goron o 2.6kg i 2.2kg.[23]

Fe'i defnyddiwyd i goroni ei olynydd Siôr VI ym 1937, a'r Frenhines Elisabeth II ym 1953, a fabwysiadodd ddelwedd o'r goron i'w defnyddio ar arfbais, bathodynnau, logos ac amryw arwyddluniau eraill y Gymanwlad i symboleiddio ei hawdurdod brenhinol. Yn y cyd-destunau hyn, disodlodd Goron y Tuduriaid, a osodwyd gan Edward VII ym 1901.[24]

Ar 4 Mehefin 2013, arddangoswyd Coron Sant Edward ar yr allor uchel yn Abaty Westminster mewn gwasanaeth i nodi 60 mlynedd ers coroni Elisabeth II - y tro cyntaf iddo adael y Jewel House yn Nhŵr Llundain er 1953.[25] Ym mis Ionawr 2018 symudwyd y goron i Balas Buckingham ar gyfer rhaglen ddogfen y BBC lle disgrifiodd y Frenhines yr heriau o wisgo gwrthrych mor drwm.[26]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Royal Household. "The Crown Jewels". The Official Website of the British Monarchy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 October 2015.
  2. Twining, p. 168.
  3. 3.0 3.1 Rose, p. 29.
  4. Mears, et al., p. 23.
  5. Moncreiffe, and Pottinger, pp. 38-46.
  6. H.R. Luard, gol. (1858). Life of St Edward the Confessor. Longman. tt. 215, 273, 281.
  7. Keay, pp. 18–20.
  8. Rose, p. 13.
  9. Ronald Lightbown in Blair, vol. 1. pp. 257–353.
  10. Twining, p. 132.
  11. Holmes, p. 216.
  12. Steane, p. 34.
  13. Alice Hunt (2008). The Drama of Coronation: Medieval Ceremony in Early Modern England. Cambridge University Press. t. 93. ISBN 978-1-139-47466-5.
  14. Arnold, pp. 731–732.
  15. Ronald Lightbown in MacGregor, p. 257.
  16. Brian Barker (1976). When the Queen was Crowned. Routledge & Kegan Paul. t. 80. ISBN 978-0-7100-8397-5.
  17. Holmes, pp. 213–223.
  18. Barclay, pp. 149–170.
  19. Graham Fisher; Heather Fisher (1979). Monarchy and the Royal Family: A Guide for Everyman. Robert Hale. t. 40. ISBN 978-0-7091-7814-9.
  20. "Royal Crown and Cypher". Government of Canada. Canadian Heritage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-20. Cyrchwyd 3 December 2016.
  21. Dixon-Smith, et al., p. 61.
  22. Mears, p. 23.
  23. 23.0 23.1 Rose, p. 35.
  24. "Victorian Coat of Arms". Victoria State Government. Cyrchwyd 15 December 2015.
  25. Gordon Rayner (4 June 2013). "Crown to leave Tower for first time since 1953 for Westminster Abbey service". The Telegraph. Cyrchwyd 14 December 2015.
  26. Rory O'Connor (9 January 2018). "Queen Elizabeth II was NOT expecting this as she's reunited with St Edward's Crown". Daily Express.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]