Yr Awyrlu Brenhinol

Oddi ar Wicipedia
Yr Awyrlu Brenhinol
Delwedd:Logo of the Royal Air Force.svg, Roundel of the United Kingdom.svg
Enghraifft o'r canlynolawyrlu Edit this on Wikidata
Rhan oY Lluoedd Arfog Prydeinig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ebrill 1918 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean Air Group Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadY Lluoedd Arfog Prydeinig Edit this on Wikidata
PencadlysMinistry of Defence Main Building Edit this on Wikidata
Enw brodorolRoyal Air Force Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.raf.mod.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lluman yr Awyrlu Brenhinol

Yr Awyrlu Brenhinol neu'r Llu Awyr Brenhinol (Saesneg: Royal Air Force neu'r RAF) yw llu awyr y Deyrnas Unedig.

Cafodd ei greu yn 1918 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf trwy uno'r Corfflu Awyr Brenhinol (y Royal Flying Corps neu'r RFC, sefydlwyd 1912) a'r Gwasanaeth Awyr Brenhinol Llyngesol (y Royal Naval Air Service neu'r RNAS).

Cafodd ei ffurfio mewn pryd i weithredu ym mrwydrau olaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhwng y rhyfeloedd bu'n ymladd yn achlysurol mewn rhannau o'r Ymerodraeth Brydeinig fel Irac a Talaith Ffin y Gogledd-orllewin (Pacistan heddiw) yn erbyn gwrthryfelwyr. Chwaraeodd ran allweddol yn yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, e.e. ym Mrwydr Prydain pan ymosododd y Luftwaffe ar Brydain.

Cymerodd ran yn Rhyfel y Gwlff a Rhyfel Irac ac mae rhai unedau'n rhan o'r llu Prydeinig sydd yn ne Irac heddiw, yn nhalaith Basra. Mae'n gweithredu yn Affganistan yn ogystal.

Gweinyddir yr RAF gan Adran y Llu Awyr yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy'n rhan o lywodraeth y DU yn Llundain.

Mae gan yr RAF sawl gwersyll yng Nghymru. Y pwysicaf yw RAF y Fali, gerllaw Y Fali, Ynys Môn.