Ceredig ap Cunedda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn ôl traddodiad, un o naw mab Cunedda, a ddaeth i ogledd Cymru o'r Hen Ogledd, a sefydlydd Teyrnas Ceredigion oedd Ceredig ap Cunedda (fl. o gwmpas canol y 5ed ganrif).

Hanes a thraddodiad[golygu]

Credir fod ei dad Cunedda wedi mudo gyda'i ddilynwyr o'r Hen Ogledd i ogledd Cymru tua'r flwyddyn 440 OC. Fel gweddill ei deulu, hannodd Ceredig o ardal Manaw Gododdin. Sefydlodd Cunedda Deyrnas Gwynedd a roddodd dir i'w feibion ar ôl gyrru allan y Gwyddelod. Daeth y wlad a adnabyddir fel Ceredigion i ran Ceredig, yn ôl yr hanes, ond mae haneswyr diweddar yn amau dilysrwydd y traddodiad hwnnw gan fod hanes cynnar Cymru yn frith o chwedlau tebyg a luniwyd i esbonio enwau lleoedd.

Os gwir yr hanes, roedd gan Ceredig wyth o frodyr, sef: