Carw coch

Oddi ar Wicipedia
Carw coch
Carw coch (gwrywaidd)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Cervidae
Is-deulu: Cervidae
Genws: Cervus
Rhywogaeth: C. elaphus
Enw deuenwol
Cervus elaphus
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad daearyddol      ail-greu     diweddar

Un o'r rhywogaethau ceirw mwyaf yw'r carw coch (Cervus elaphus). Mae i'w gael ledled Ewrop, cyn belled â rhanbarth Mynyddoedd y Cawcasws, Asia Leiaf, Iran, a rhannau o orllewin Asia. Mae hefyd i'w gael ym Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica: dyma'r unig rywogaeth o geirw sy'n frodorol yn Affrica. Mae ceirw coch wedi’u cyflwyno i rannau eraill o’r byd, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Canada, Periw, Wrwgwái, Tsile a’r Ariannin. Ym Mhrydain ceir y rhan fwyaf o geirw coch ar rostiroedd agored Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, er bod poblogaethau gwasgaredig i'w cael mewn mannau eraill yng Nghymru, Lloegr, ac Iwerddon.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Red Deer", Gwefan The Mammal Society; adalwyd 1 Chwefror 2023

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.