Byr-a-thoddaid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Byr a thoddaid)
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mesur caeth yw'r byr-a-thoddaid na ddylid ei gymysgu â'r hir-a-thoddaid. Mae'n un o'r Pedwar Mesur ar Hugain.

Mae'r mesur hwn yn gyfuniad o'r toddaid byr a'r gyhyhedd fer. Mae'r toddeidiau byr yn gymysg â'r gyhydedd fer, ond ni cheir dau doddaid yn dilyn ei gilydd. Cynhelir yr un brifodl drwy gydol y pennill.

Dyma enghraifft led-gynganeddol o awdl i Dduw gan Gruffudd ab yr Ynad Coch (13g), a gynigir yn Cerdd Dafod, John Morris-Jones (diweddarwyd yr orgraff):

Y Gŵr a'n rhoddes rhiniau — ar dafawd
Ac arawd a geiriau,
A'm troses i gyffes nid gau,
A'm troso i'r trosedd gorau,
I guriaw gorwisg y gruddiau,
I garu Mab Duw diamau,
I gymryd penyd rhag poenau — uffern
Ac affaith bechodau.[1]

Dyma enghraifft arall o fyr-a-thoddaid o waith Saunders Lewis allan o'r gyfrol Siwan a Cherddi Eraill:

Lle bydd taer lonydd lynu — wrth gêl friw
Galfarïau Cymru
A phêr rym coffus offrymu
Yr eiriol anfeidrol a fu;
Yno bydd gwerth ar d'aberthu
Eglwysig, ar garegl Iesu,
Undod cyfryngdod Crist fry — yn y nen
A than wybren obry.[2]

Hefyd, dyma fyr-a-thoddaid gan y pencerdd Wiliam Llŷn allan o'i awdl enghreifftiol 'I Ferch':

Doeth gywir, feinir, fwynion — eiriau gwir,
Da tybir, d'atebion;
Deuliw manod, aeliau meinion,
D'air a danwyd i'r dewinion,
D'air â'n agos drwy anogion,
D'air aeth hefyd i'r eithafion:
Doethgar a hawddgar yw hon — digymar
Dig afar, dy gofion.

Nid oes rheol yn nodi faint o linellau o gyhydedd fer y dylid eu cynnwys rhwng y toddeidiau, dim ond rheol yn nodi na ddylid gosod dau doddaid gyda'i gilydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 'Gwaith Gruffudd ab yr Ynad Coch', gol. Rhian M. Andrews, yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996), tud. 457.
  2. Siwan a Cherddi Eraill (Llyfrau'r Dryw, 1956).