Toddaid

Oddi ar Wicipedia
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Un o Bedwar Mesur ar Hugain Cerdd Dafod yw'r toddaid.

Dwy linell sydd gan doddaid; mae 10 sillaf gan y llinell gyntaf a naw sillaf gan yr ail linell.

Mae'r llinell gyntaf yn union fel llinell gyntaf englyn unodl union. Ceir gwant a gair cyrch yn y llinell, a gall dorri'n 7+3, 8+2 neu 9+1.

Yn raddol, daethpwyd i ganu'r ail linell yn ddi-bengoll wrth i'r gyfundrefn gaeth dynhau; hynny yw; cynganeddir yr ail linell ar ei hyd. Cenid dau doddaid gyda'i gilydd yn aml i ffurfio pennill pedair llinell.

Ceir odl rhwng y gair cyrch a gorffwysfa'r ail linell, yn hytrach na chyfatebiaeth gynganeddol. Cynhelir y brifodl rhwng y gwant y llinell gyntaf a therfyn yr ail linell.

Dyma enghraifft o doddaid o waith Dafydd Nanmor:

Mab Rhys aeth o'i lys i lawr - yr Erwig:
Mewn gro a cherrig mae'n garcharawr.

Pur anaml y ceir toddaid unigol; gan amlaf ceir cyfres o doddeidiau. Nid yw cynnal prifodl rhwng pob pennill yn orfodol, ond mae rhai beirdd yn dewis gwneud hyn. Yn ei awdl farwnad i Domas ap Rhys o'r Tywyn, canodd Dafydd Nanmor ugain toddaid mewn deg pennill pedair llinell, a'r cyfan ar yr odl awr.[1] Dyma enghraifft arall o'r awdl:

Aml wylaw mal glaw ar glawr - y Deau.
Aml llif o dremau, aml llef dramawr.
Aml i mae oer wae am wawr - anneirif,
Aml drem a wnâi'r llif, aml dŵr mewn llawr.

Mae'r toddaid, ac amrywiadau bychain arno, yn rhan o fesurau eraill, fel yr hir a thoddaid, y gwawdodyn a'r gwawdodyn hir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas Roberts ac Ifor Williams, The Poetical Works of Dafydd Nanmor, Gwasg Prifysgol Cymru, 1923

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]