Rhupunt byr

Oddi ar Wicipedia
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Un o'r pedwar mesur ar hugain ydyw'r rhupunt byr, sef un o'r mesurau caeth. Mae iddo dair rhan, pob un yn bedair sillaf yr un. Mae un llinell, felly, yn 12 sillaf. Ar ddiwedd pob llinell mae'r brifodl. Mae diwedd traean cyntaf pob llinell yn odli gyda diwedd yr ail draean ac mae hwnnw yn creu cynghanedd (croes neu traws) gyda'r trydydd traean.

Dyma bennill allan o awdl "Yr Ymchwil" gan W. D. Williams:

Prysur gyrchu
hytraws gamu,
petrus gwman.
er hynny
a hir syllu,
aros allan.

Gall pob traean ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn odl ddwbwl. O edrych ar y llinellau fel cyfanwaith gwelir eu bont hefyd yn ffurfio cynghanedd sain.

Weithiau, byddai Beirdd yr Uchelwyr yn cynganeddu'r ddau draean cyntaf hefyd, er enghraifft:

Yn frawd ffawd ffydd, gwirion, ufydd, gwerin nefawl. (Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]