Cynghanedd draws

Oddi ar Wicipedia

Math o gynghanedd; nodwedd hynafol mewn barddoniaeth Gymraeg yw'r gynghanedd draws. Mae egwyddorion sylfaenol y gynghanedd hon yn debyg i'r gynghanedd groes, ond mewn llinell o gynghanedd draws, caniateir hepgor rhai llythrennau rhwng yr orffwysfa a'r ail brif acen. Dyma un enghraifft o Gynghanedd Draws:

  • Llew o beth | yw tad llo bach.

Yma, cyfatebir y cytseiniaid cyn yr orffwysfa (ll, b, (th)) gan yr un cytseiniaid ar yr ail brif acen; (ll, b, (ch)). Sylwer bod y cytseiniaid yn y gair "tad" yn cael eu hanwybyddu, sydd yn gwneud y llinell yn llinell o gynghanedd draws. Cafodd yr enw hwn gan fod y gyfatebiaeth gytseiniol yn mynd "ar draws" y cytseiniaid ar ôl yr orffwysfa.

Am ymdriniaeth lawn a chynhwysfawr, gweler y llyfryddiaeth safonol isod.

Enghreifftiau eraill[golygu | golygu cod]

  • Mae haul mewn cwrw melyn
  • Ar fin y dŵr, derfyn dydd
  • Heb ofal, ond bihafio (Gerallt Lloyd Owen)
  • Gwn iddo adrodd ganwaith (Cymwynaswr gan Ceri Wyn Jones). Yma mae'r gynghanedd yn dweud wrth y darllenydd ble i gymryd saib (yr orffwysfa), sef ar ôl y gair "Gwn" yn hytrach nag ar ôl "iddo".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]