Mulfran
| Mulfran | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Pelecaniformes |
| Teulu: | Phalacrocoracidae |
| Genws: | Phalacrocorax |
| Rhywogaeth: | P. carbo |
| Enw deuenwol | |
| Phalacrocorax carbo (Linnaeus, 1758) |
|
Mae'r Fulfran (Phalacrocorax carbo), yn aelod o deulu'r Phalacrocoracidae, mulfrain. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia ac yn ymestyn cyn belled ag Awstralia a Seland Newydd. Mae hefyd yn nythu ar afordir dwyreiniol Gogledd America. Enwau arall arno yw Bilidowcar a Morfran.
Mae'r Fulfran yn nythu ger glan y môr fel rheol, ar glogwyni neu mewn coed, ond mae nifer gynyddol yn nythu ymhell o'r môr. Adeiledir y nyth o frigau a gwymon fel rheol, ac mae'n dodwy 3 neu 4 wy.
Pysgod yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal trwy nofio o dan y dŵr, un ai ar y môr neu ar lynnoedd ac afonydd. Gall blymio'n ddwfn i'r dŵr a threulio hyd at 30 eiliad dan yr wyneb. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Mae'n aderyn cyfarwydd, yn ddu drosto ac yn aderyn mawr, 77-94 cm o hyd a 121-149 cm ar draws yr adenydd, gyda darn melyn heb blu ar y gwddf. Yn Ewrop rhaid bod yn ofalus i'w wahaniaethu oddi wrth y Fulfran Werdd sy'n edrych yn weddol debyg, ond mae'r Fulfran yn aderyn mwy gyda phig mwy.
Yng Nghymru mae'r Fulfran yn aderyn cyffredin iawn o gwmpas y glannau ac ar lynnoedd.