Annie Brewer

Oddi ar Wicipedia
Annie Brewer
Ganwyd21 Tachwedd 1874 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 1921 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnyrs Edit this on Wikidata
Gwobr/auLégion d'honneur, Croix de guerre Edit this on Wikidata

Nyrs Cymreig a wasanaethodd ar y ffrynt yn Ffrainc trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Annie Elizabeth Brewer (21 Tachwedd 1874 - 30 Ionawr 1921), a oedd hefyd yn cael ei elw'n Nancy. Cafodd hi ei hanafu mewn ymosodiad sielio, er hynny parhaodd efo'i gwaith. Enillodd hi'r Legion d'Honneur a'r Croix de Guerre, sy'n ei gwneud hi'n un o nyrsys mwyaf addurnedig o unrhyw wlad a fu'n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ddiwedd y rhyfel derbyniodd y Fedal Buddugoliaeth a'r Fedal Rhyfel gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, er hynny nid yw safle ei bedd yn cael ei gydnabod na'i anrhydeddu gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Brewer yng Nghasnewydd (yn Sir Fynwy y pryd hynny), yn ferch hynaf i John Brewer a Jessie ei wraig. Bu John yn gweithio mewn ffatri hoelion ar adeg geni Annie cyn symud ymlaen i weithio mewn siop groser.

Priododd gyrrwr ambiwlans Ffrengig, Daniel Mistrick, gan ei briodi ar faes y gad yn Verdun.

Gyrfa nyrsio[golygu | golygu cod]

Ym 1899 cymhwysodd Brewer yn nyrs i bobl a salwch meddwl. Wedi hynny bu'n gweithio mewn ysbytai mewn gwahanol rannau o Brydain gan gynnwys cyfnodau yn Llundain a Chaer. Yng Nghaer fe fu'n gweithio fel dirprwy i'r fetron mewn ysbyty oedd yn trin y frech wen.[1]. Ar ôl ychydig flynyddoedd yn gweithio mewn ysbytai, ymddengys iddi weithio fel nyrs / cydymaith, gan deithio i sawl rhan o Ewrop[2]

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]

Roedd Brewer yn Ffrainc ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe ymunodd a gwasanaeth nyrsio ac ambiwlans Ffrengig y Fondation Baye. Bu'n gwasanaethu fel nyrs mewn llawer o theatrau rhyfel gan gynnwys brwydrau Marne, y Somme a Verdun. Yn ystod Brwydr Verdun, adroddir bod Ms Brewer wedi cynorthwyo gyda 229 o lawdriniaethau mewn saith niwrnod, neu un bob 45 munud[3]. Ar y 18 Awst 1917 bu'n gweithio yn yr ysbyty yn Dugny pan sieliwyd ei hambiwlans. Er iddi gael ei hanafu parhaodd i ofalu am filwyr clwyfedig a hynny tra roedd y gelyn yn parhau i danio arnynt[4]. Arhosodd yn Ewrop, gan weithio mewn gorsaf fwydo yn yr Almaen ar ôl i'r rhyfel ddod i ben.

Am ei ddewrder a'i gwasanaeth derbyniodd nifer o anrhydeddau gan lywodraeth Ffrainc. Dyfarnwyd iddi Croix de Guerre dwywaith, y Legion d’Honnour a'r Médaille de la Reconnaissance Française.[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Dychwelodd i Gasnewydd ym 1921 i edrych ar ôl ei mam sâl, ond bu farw ychydig wedyn o lid yr arennau yn 46 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent eglwys St Woolo Casnewydd. Er gwaethaf ei gwasanaeth arwrol yn y Rhyfel a'r ffaith bod ei gwasanaeth wedi cyfrannu at ei salwch marwol, nid yw ei bedd wedi ei gofrestru fel bedd rhyfel gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Mae cangen Gwent o Gymdeithas y Ffrynt Gorllewinol yn ymgyrch i roi cydnabyddiaeth i'w bedd.

Yn 2014 darlledwyd teyrnged i Brewer ar deledu BBC Cymru Annie's War: A Welsh nurse on the Western Front[6]

Dadorchuddiwyd plac glas er cof amdani ar furiau ei chartref yn West Street, Casnewydd gan gymdeithas y Ffrynt Gorllewinol a Vaughan Gething, Gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2018[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "THESMALLPOX - The Chester Courant and Advertiser for North Wales". James Albert Birchall. 1903-07-01. Cyrchwyd 2018-05-02.
  2. Archif Menywod Cymru - Menywod, Cymru a Rhyfel - Annie Elizabeth (Nancy) Brewer (Mistrick) adalwyd 1 Mai, 2018
  3. Dominic Jones - South Wales Argus, 15 Mai 2017 Newport wartime nurse hailed adalwyd 1 Mai 18
  4. Journal officiel de la République française, 17eg Rhagfyr 1917
  5. Martin Wade -  South Wales Argus, 7 Awst 2014, GWENT'S GREAT WAR: Honoured for bravery in the face of the enemy adalwyd 2 Mai, 2018
  6. BBC Cymru Wales, manylion rhaglen Annie's War adalwyd 2 Mai 2018
  7. BBC Cymru Wales Blue plaque for decorated WWI nurse Annie Brewer adalwyd 2 Mai 2018