Annette Bryn Parri
Cyfeilyddes a pherfformwraig yw Annettte Bryn Parri. Ganed yn Neiniolen, Gwynedd, ble mae’n dal i fyw. Wedi iddi astudio’r piano gyda Rhiannon Gabrielson o Benmaenmawr aeth ymlaen i astudio gyda Marjorie Clement yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion, lle graddiodd yn 1984. Wrth gyfeilio ym Manceinion, roedd Annette yn arbenigo mewn Lieder, oratorio a’r opera, ond roedd ei diddordeb mwyaf yng nghyfansoddwyr y cyfnod Rhamantaidd.
Yn bymtheng mlwydd oed, roedd Annette yn gyfeilydd swyddogol. Yn 1982 enillodd wobr Grace Williams am gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli. Yn 1983, cafodd ei gweld am y tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni. Enillodd y Rhuban Glas offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl yn 1985. Yn 1984 ymunodd a’r Adran Gerdd ym Mhrifysgol Cymru Bangor, ac ers 1984, mae Annette wedi bod yn diwtor piano i fyfyrwyr cerddoriaeth sy’n dilyn cyrsiau B.A. a B.Cerdd ac mae’n cyfeilio i fyfyrwyr yn eu harholiadau perfformio.
Mae'n cyfeilio i nifer o brif artistiaid Cymru fel Bryn Terfel ac Aled Jones, Eirian James, Gwyn Hughes-Jones, Leah Marian Jones a Rebecca Evans. Mae wedi cyfrannu i nifer o gynyrchiadau teledu fel Noson Lawen, Cân i Gymru. Meistroli, a llawer mwy. Mae ei chyfansoddiadau yn cynnwys ei threfniant o ganeuon Andrew Lloyd Webber, caneuon Cymreig a melodïau amrywiol, cerddoriaeth i ffilm a cherddoriaeth ysgafn.
Mae wedi gwneud ymddangosiadau mewn cyngherddau, fel perfformwraig ac fel cyfeilyddes trwy Gymru a Lloegr, yn ogystal ag yn yr Almaen, Llydaw, yr Eidal, Nigeria, Awstralia a Hong Kong - ac ar fwrdd y QE2. Mae wedi cyfeilio yn Neuadd Albert, Llundain ar sawl achlysur, a bu Syr Andrew Lloyd Webber, Syr George Solti, y Tywysog Charles a’r diweddar Dywysoges Diana ymhlith ei chynulleidfaoedd preifat.
