Grace Williams
| Grace Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 19 Chwefror 1906 Y Barri, Cymru |
| Bu farw | 10 Chwefror 1977 |
| Enwau eraill | Grace Mary Williams |
| Galwedigaeth | Cyfansoddwraig |
Roedd Grace Mary Williams (19 Chwefror 1906 - 10 Chwefror 1977) yn gyfansoddwraig Gymraeg. Cafodd ei geni yn y Barri. Ar ôl gadael Ysgol y Sir, Y Barri, derbyniodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Yna aeth i goleg Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain, ble cafodd ei dysgu gan Ralph Vaughan Williams. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd y myfrywyr i Grantham yn Swydd Lincoln, lle cyfansoddodd Grace rhai o'i gweithiau cynharaf, gan gynnwys Sinfonia Concertante a'i symffoni gyntaf. Ar ôl dysgu yn Llundain am ychydig, daeth yn ôl i Gymru i weithio gyda’r BBC. Un o'i gweithiau mwyaf poblogaidd oedd "Fantasia on Welsh Nursery Tunes" (1940). Rhwng 1960-61 ysgrifennodd ei hunig opera "The Parlour", ond ni chafodd ei pherfformio tan 1966. Roedd yn dioddef llawer o broblemau iselwedd, ac ar ôl gwrthod OBE, bu farw yn 1977. Neilltuodd BBC Radio 3 eu heitem Cyfansoddwr yr Wythnos iddi yn ail hanner mis Awst 2006. O ganlyniad, cafwyd nifer o berfformiadau o weithiau nas perfformiwyd, gan gynnwys ei Chonsierto Fiolin.
Gwaith[golygu]
Roedd llawer o waith Grace Williams yn clymu gyda cerddoraieth gwerin Gymreig, fel ei darn enwocaf, ‘Fantasia on Welsh Nursery Tunes’. Dyma rhestr o’i gwaith;
- Four Illustrations for the Legend of Rhiannon (1939)
- Sea Sketches (1944)
- The Dancers (1951)
- Penillion (1955)
- Symphony no. 2 (1956)
- All Seasons shall be Sweet (1959)
- Trumpet Concerto (1963)
- Ave Maris Stella (1973)
- Fairest of Stars (1973)