Andrew Lloyd Webber

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Andrew Lloyd Webber

Geni 22 Mawrth 1948
Enwau eraill Arglwydd Lord Webber
Enwog am Jesus Christ Superstar, Cats, Evita, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Starlight Express
Galwedigaeth Cyfansoddwr cerddorol

Mae Andrew Lloyd Webber, Baron Lloyd-Webber (ganwyd 22 Mawrth 1948) yn gyfansoddwr cerddorol Seisnig hynod o lwyddiannus.

Yn arbenigwr ym maes y sioeau cerdd, mae Lloyd Webber wedi cyfansoddi 16 o sioeau, 2 sgôr ffilm a requiem mass yn Lladin ymysg gweithiau eraill. Yn ogystal a hyn, mae'r cyfansoddwr o Dde Kensington, wedi casglu rhestr faith o wobrau ac anrhydeddau ym myd ffilm a theatr gan gynnwys saith Gwobr Tony, tair Gwobr Grammy, Oscar, Emmy Rhyngwladol, chwech Gwobr Olivier a Gwobr Golden Globe. Mae ei ganeuon enwocaf wedi'u canu a'u recordio gan filoedd o artistiaid ar draws y byd. Ers dod yn berchennog ar y Palace Theatre yn Llundain yn 1983 mae Lloyd Webber wedi prynu wyth o theatrau Llundain, gan gynnwys y London Palladium.

Ymysg ei ganeuon enwocaf mae I Don't Know How to Love Him (Jesus Christ Superstar), Memory (Cats), Don't Cry for Me Argentina (Evita), Any Dream Will Do (Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat) Music of the Night (Phantom of the Opera) a Love Changes Everything (Aspects of Love).

[golygu] Sioeau Cerdd

Rhoddir awdur geiriau'r sioeau mewn cromfachau.

Mae amryw o sioeau Lloyd Webber wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg gan gynnwys Ioseff a'r Gôt Freuddwyd Decni-Liw Ryfeddol a Iesu Grist Siwpyrstar.

Offer personol