Angharad Rees
Oddi ar Wicipedia
Actores Cymreig oedd Angharad Mary Rees (16 Gorffennaf 1949 – 21 Gorffennaf 2012). Cafodd ei geni yng Nghaerdydd.
Priododd yr actor Seisnig Christopher Cazenove (m. 2010) a hynny yn 1973; ysgarodd y ddau yn 1994. Priododd y dŷn busnes David McAlpine yn 2005. Bu Angharad Rees farw yn Llundain yn 63 oed o gansar y pancreas. Ymddangosodd yn y 1970au yn y gyfres Poldark y BBC.
Roedd ganddi siop tlysau a gemwaith o'r enw Angharad yn Knightsbridge.[1]
Teledu [golygu]
- The Way We Live Now (1969)
- Doctor in Charge (1972-1973)
- Poldark (1975-1977)
- The Duchess of Duke Street (1976)
- The Forgotten Story (1983)
- Master of the Game (1984)
- Remington Steele (1985)
- Close to Home (1989-1990)
- Trainer (1992)
Ffilmiau [golygu]
- Moments (1974)
- Little Girl in Blue Velvet (1978)
- The Wolves of Kromer (1998)