Amgueddfa Gelf Philadelphia

Oddi ar Wicipedia
Amgueddfa Gelf Philadelphia
Mathoriel gelf Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1876 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1876 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPhiladelphia Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau39.9658°N 75.1814°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd, pensaernïaeth Art Deco Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganAnna H. Wilstach, William P. Wilstach Edit this on Wikidata

Mae Amgueddfa Gelf Philadelphia, a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Yr Amgueddfa Gelf", yn un o amgueddfeydd celf mwyaf yr Unol Daleithiau. Fe'i lleolir ar ochr orllewinol y Benjamin Franklin Parkway ym Mharc Fairmount Philadelphia. Sefydlwyd yr amgueddfa ym 1876 mewn cydweithrediad a'r Dangosiad Canmlwyddiant yn yr un flwyddyn. Yn wreiddiol, cafodd ei alw'n Amgueddfa ac Ysgol Pennsylvania o Gelf Diwydiannol a chafodd ei ysbrydoli gan Amgueddfa De Kensington yn Llundain, (bellach Amgueddfa Victoria ac Albert). Agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd ar y 10fed o Fai, 1877. Cwblhawyd prif adeilad presennol yr amgueddfa ym 1928.

Mae casgliad yr amgueddfa yn cynnwys gwaith Marcel Duchamp, Auguste Rodin, Paul Cézanne, Vincent van Gogh, Édouard Manet, Claude Monet, Pierre-Auguste Renoir, Camille Pissarro, ac Edgar Degas. Mae hefyd gwaith artistiaid o’r Unol Daleithiau, megis gwaith y Crynwyr ac Almaemwyr Pennsylvania.[1]

Cyswllt yr Amgueddfa â Philadelphia[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â phensaernïaeth a'r casgliadau, mae Amgueddfa Gelf Philadelphia yn enwog am yr olygfa enwog yn y ffilm Rocky, a'r ffilmiau olynnol, II, III, V a Rocky Balboa. Yn aml, gwelir ymwelwyr i'r amgueddfa yn efelychu rhediad enwog Sylvester Stallone i fyny'r grisiau o flaen yr adeilad.

Rhoddwyd cerflun efydd o Rocky ar ben y grisiau am gyfnod byr tra'n ffilmio Rocky III. Yn ddiweddarach, fe'i symudwyd i'r Wachovia Spectrum yn sgîl yn dadlau brwd a welwyd ynglŷn ag ystyr "celf". Dychwelyd y cerflun i'r grisiau ar gyfer ffilmio Rocky V ac ymddengys yno yn y ffilmiau Philadelphia a Mannequin. Serch hynny, symudwyd y cerflun i waelod y grisiau ar yr 8fed o Fedi, 2006.

Oherwydd lleoliad yr amgueddfa, ar waelod y Ben Franklin Parkway, cynhelir nifer o gyngherddau a gorymdeithiau yno. Ar yr 2il o Orffennaf, 2005, defnyddiwyd grisiau'r amgueddfa i gynnal cyngerdd Live 8 Philadelphia, lle perfformiodd artistiaid megis Dave Matthews Band, Linkin Park a Maroon 5. Caeodd yr amgueddfa ar gyfer Live 8 ond ail-agorodd y diwrnod canlynol.

Daliadau Adnabyddus[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]