Rocky

Oddi ar Wicipedia
Rocky

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr John G. Avildsen
Cynhyrchydd Robert Chartoff
Irwin Winkler
Ysgrifennwr Sylvester Stallone
Serennu Sylvester Stallone
Talia Shire
Burt Young
Carl Weathers
Burgess Meredith
Dylunio
Cwmni cynhyrchu United Artists
Dyddiad rhyddhau 21 Tachwedd, 1976
Amser rhedeg 120 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Rocky (1976) yn ffilm a ysgrifennwyd gan ac yn serennu Sylvester Stallone. Cyfarwyddwyd y ffilm gan John G. Avildsen. Adrodda hanes Rocky Balboa, sy'n dilyn y Freuddwyd Americanaidd. Chwarae Stallone rhan casglwr dyledion caredig sy'n gweithio i fenthyciwr arian diegwyddor yn Philadelphia. Mae Balboa hefyd yn ymladdwr mewn clybiau sy'n cael cyfle ym mhencampwriaeth pwysau trwm y byd pan mae'r cystadleuydd arall yn torri ei law.

Gwnaed y ffilm am $1.1 miliwn, swm cymharol fechan, ac fe'i ffilmiwyd mewn 28 niwrnod. Gwnaeth y ffilm dros $117.2 miliwn yn y swyddfa docynnau, ac enillodd dair Oscar gan gynnwys y Ffilm Orau. Derbyniodd y ffilm feirniadaethau canmoladwy a daeth Stallone yn un o brif ser Hollywood. Arweiniodd y ffilm at bum ffilm ddilynol: Rocky II, III, IV, V, a Rocky Balboa.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Rocky
yn Wiciadur.