Arles
Oddi ar Wicipedia
Dinas a commune yn ne Ffrainc yw Arles. Saif ar afon Rhône yn département Bouches-du-Rhône. Mae'r Camargue gerllaw. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 50,513. Arles yw'r commune mwyaf o ran arwynebedd yn Ffrainc, gydag arwynebedd o 750 km²; mae'r commune yn cynnwys pentrefi Salin-de-Giraud, Raphèle-lès-Arles, Saliers, Gimeaux, Moulés a Mas-Thibert yn ogystal ag Arles ei hun.
Roedd Arles yn ddinas bwysig iawn yng ngyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, o cheir nifer o olion Rhufeinig o bvwysigrwydd mawr yma, megis yr amffitheatr. Yn y 19eg ganrif bu Vincent van Gogh yn byw yma.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Abaty Montmajour
- Clwysty Sant Trophimus
- Cryptoporticus
- Eglwys Gadeiriol
- Eglwys Sant Trophimus
- Theatr Rufeinig
- Thermae Constantine
Pobl enwog o Arles [golygu]
- Djibril Cissé, pêl-droediwr
- Jeanne-Louise Calment, person hynaf y byd