Ambiwlans Awyr Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Un o hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru ar faes glanio Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Elusen gofrestredig yw Ambiwlans Awyr Cymru (Saesneg: Wales Air Ambulance) sy'n gweithredu drwy Gymru gyfan ac sy'n "cynnig gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rheini sy'n dioddef salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd."[1]

Cafodd ei sefydlu yn 2001. Erbyn y flwyddyn honno Cymru oedd yr unig wlad yn Ewrop gyfan heb wasanaeth ambiwlans awyr.[2] Erbyn hyn mae gan yr eluseun dri hofrenydd gyda thri chriw 'helimed' - peilot a dau barafeddyg - wedi'u lleoli yng Nghaernarfon, Y Trallwng ac Abertawe i wasanaethu gogledd, canolbarth a de Cymru.[1]

Ariannir y gwasanaeth ambiwlans awyr hwn trwy roddion gan y cyhoedd yn unig; nid yw'n derbyn grantiau'r Loteri Genedlaethol nac unrhyw arian gan y llywodraeth [1] Mae'n ymateb i tua 1,000 o alwadau y flwyddyn ar gost o tua £1,200 yr alwad ar gyfartaledd.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Rod of asclepius.png Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato