Loteri Genedlaethol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y Loteri Genedlaethol yw loteri fwyaf y Deyrnas Unedig. Fe'i gweithredir gan Camelot Group, a dderbyniodd eu trwydded ym 1994, 2001 a 2007. Rheolir y loteri gan Gomisiwn y Loteri Genedlaethol. Ail-frandiwyd y Loteri Genedlaethol yn 2002 er mwyn gwrthsefyll llai o werthiant. Canlyniad hyn oedd ail-enwi'r prif gêm yn Lotto. Fodd bynnag, mae'r casgliad o gemau'n parhau i gael eu galw'n Y Loteri Genedlaethol. Dyma yw un o ddulliau gamblo mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Telir yr holl wobrau mewn un swm ac maent yn ddi-dreth. Am bob punt (£) a werir ar gemau'r Loteri, aiff 50 ceiniog (c) i'r gronfa gwobrwyo, 28c i 'achosion da' yn unol a chanllawiau'r Llywodraeth, 12c i'r Llywodraeth fel treth a 5C i'r gwerthwyr fel comisiwn, tra bod Camelot yn derbyn 4.5c i dalu am gostau gweithredu a 0.5c o elw. Rhaid i chwaraewyr fod o leiaf 16 mlwydd oed i chwarae'r loteri, boed ym mhrif gemau'r loteri ar y teledu neu er mwyn prynu cardiau crafu'r loteri.

Ceir deuddeg peiriant gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer y Lotto. Dewisir y peiriant a'r set o beli loteri ar hap, a chaiff hyn ei gyhoeddi yn union cyn i'r rhifau gael eu tynnu. Gelwir y peiriannau'n Merlin, Arthur, Galahad, Vyvyan, Lancelot, Garnet, Topaz, Opal, Amethyst, Moonstone, Pearl a Sapphire. Arferwyd defnyddio Guinevere yn y gorffennol. Rhoddir rhif ar bob set o beli. Ceir wyth set i gyd.

Dolenni allanol[golygu]

SVG black joker.svg Eginyn erthygl sydd uchod am adloniant neu hamdden. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.