Albert Gladstone

Oddi ar Wicipedia
Albert Gladstone
Ganwyd28 Hydref 1886 Edit this on Wikidata
Penarlâg Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mawrth 1967 Edit this on Wikidata
Fordingbridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethrhwyfwr Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau73 cilogram Edit this on Wikidata
TadStephen Edward Gladstone Edit this on Wikidata
MamAnnie Crosthwaite Wilson Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Syr Albert Charles Gladstone, 5ed Barwnig, MBE, DL (28 Hydref 1886 - 2 Mawrth 1967) yn ŵr busnes Cymreig ac yn rhwyfwr a enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908.

Ganwyd Gladstone yng Nghastell Penarlâg, Sir y Fflint yn fab hynaf y Parchedig Stephen Edward Gladstone ac Annie Crosthwaite Wilson, ei wraig. Roedd yn ŵyr i'r Prif Weinidog, William Ewart Gladstone.[1] Yn deuddeg mlwydd oed, mynychodd angladd wladol ei daid.[2]

Addysgwyd Gladstone yng Ngholeg Eton a graddiodd o Eglwys Crist, Rhydychen ym 1909 gyda gradd BA .

Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen roedd yn aelod o'r tîm rhwyfo wyth dyn gan rwyfo i Rydychen pedair gwaith yn Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt rhwng 1906 a 1909. Roedd yn aelod o dîm rhwyfo Coleg Eglwys Crist a enillodd y Grand Challenge Cup yn Regata Frenhinol Henley ym 1908. Pedair wythnos yn ddiweddarach, roedd yn aelod o'r criw o wyth a enillodd y fedal aur am rwyfo dros Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908.[3]

Gwasanaethodd Gladstone yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mesopotamia [4] a Gallipoli, ac fe'i crybwyllwyd mewn cad lythyrau. Dyrchafwyd ef yn Gapten yn yr Ail / 5ed Catrawd Reiffl y Gurkha Brenhinol (Byddin y Ffiniau), yng Ngwarchodfa Byddin India, ac fe'i penodwyd yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) ym 1919.[5]

Roedd Gladstone yn ddyn busnes llwyddiannus ac yn cynnal llawer o swyddi pwysig megis Cyfarwyddwr Banc Lloegr o 1924 i 1947 ac yn uwch bartner yng nghwmni Ogilvy, Gillanders & Company, marsiandwyr yn Nwyrain India. Fe'i penodwyd yn Rhaglaw Dinas Llundain ac yn Uchel Siryf Sir Llundain ym 1929. Ym 1935 daeth yn Gwnstabl Castell y Fflint gan gadw'r swydd hyd ei farwolaeth.[6] Etifeddodd y farwnigaeth wedi marwolaeth ei gefnder, Syr John Evelyn Gladstone, ar 12 Chwefror 1945.[7]

Bu farw Gladstone yn Fordingbridge, Hampshire yn 80 oed. Gan nad fu'n briod ac nid oedd ganddo fab, pasiodd y teitl i'w frawd iau, Charles Andrew Gladstone, a ddaeth yn 6ed Barwnig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Melville Henry de Massue (1994). The Blood Royal of Britain. Baltimore: Genealogical Pub Co. ISBN 0-8063-1431-1
  2. The London Gazette. 22 Mehefin 1898. t. 3845 adalwyd 2 Rhagfyr 2018
  3. Sports Reference Olympic Sports – Albert Gladstone Archifwyd 2020-04-18 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2 Rhagfyr 2018
  4. "PERSONAL - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1919-03-21. Cyrchwyd 2018-12-02.
  5. The London Gazette. 28 Chwefror 1919. t. 2995 adalwyd 2 Rhagfyr 2018
  6. "Sir Albert Charles Gladstone of Fasque and Balfour, 5th Bt" adalwyd 2 Rhagfyr 2018
  7. Burke's Peerage, Baronetage & Knightage, 107th edition, tudalen 1558