Castell y Fflint

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell y Fflint
Castell y Fflint gan J.M.W. Turner

Codwyd Castell y Fflint yn y Fflint rhwng 1277 a 1283 ar lannau Dyfrdwy gan Edward I o Loegr yn ystod ei ryfelau yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd. Roedd yn wersyll pwysig i'r lluoedd Seisnig yn ystod y rhyfelau hyn; y cyntaf yn y gadwyn o gestyll a gododd Edward ar hyd arfordir gogledd a gorllewin Cymru i warchod y tir a oresgynodd.

Codwyd y rhan gwreiddiol o'r castell ar fyrder, dan ofn ymosodiad gan y Cymry, a dywedir fod tus 1,800 o ddynion wrth y gwaith o gloddio'r ffos amddiffynol yn unig. Mae'r castell yn nodweddiadol am fod ganddo dŵr anferth ar wahân i weddill y castell. Cynlluniwyd tref fechan ar yr un pryd, wrth y castell, ar gynllun rheolaidd ac wedi'i hamgylchynu â muriau.

YFflintLB04.JPG

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr newidiodd y castell ddwylo sawl gwaith. Cafodd ei gipio'n derfynol gan luoedd y Seneddwyr yn 1646; fe'i dynwyd i lawr yn fuan ar ôl hynny. Yn y ddeunawfed ganrif adeiladwyd carchar ar y safle. Adfeilion yn unig sydd ar y safle heddiw, ond erys y tŵr yn olygfa drawiadol.