Abaty Ynys Enlli
Clas Celtaidd ac yn ddiweddarach abaty o Ganoniaid Rheolaidd Awstinaidd oedd Abaty Ynys Enlli neu Abaty'r Santes Fair.
O gyfnod cynnar iawn, ystyrid Ynys Enlli yn fangre santaidd ac yn gyrchfan i bererinion. Dywedir i'r fynachlog gael ei sefydlu gan Sant Cadfan yn y 6ed ganrif, ac yn ol y chwedl mae ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Yng nghyfnod Gerallt Gymro (tua 1188), roedd y sefydliad yn parhau i fod yn glas traddodiadol. Dywed Gerallt fod stori mai dim ond o henaint y byddai neb yn marw ar Enlli, ac na fyddai neb yn marw cyn y preswylydd hynaf.
Oddeutu'r flwyddyn 1200, daeth y fynachlog yn abaty Awstinaidd; yn ôl pob tebyf trwy ddylanwad Llywelyn Fawr, a berswadiodd nifer o glasau yng Ngwynedd i droi yn dai Awstinaidd yn y cyfnod hwn. Ceir cofnod o gytundeb rhwng yr abaty a chanoniaid Aberdaron yn 1252.
Roedd yr abaty yn dal tiroedd sylweddol ar Benrhyn Llŷn, ond ni fu erioed yn gyfoethog. Ychydig cyn ei ddiddymu yn 1537, roedd yn werth £46. Dim ond ychydig o adfeilion sy'n weddill heddiw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120