Zog, brenin Albania

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Zog, brenin Albania
Ahmet-Zogu-1895---1961.jpg
Ganwyd 8 Hydref 1895 Edit this on Wikidata
Albania Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Ebrill 1961 Edit this on Wikidata (65 oed)
Suresnes Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Galatasaray High School
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Prime Minister of Albania, President of Albania, King of Albania, Prime Minister of Albania Edit this on Wikidata
Tad Xhemal Pasha Zogu Edit this on Wikidata
Mam Sadijé Toptani Edit this on Wikidata
Priod Géraldine Apponyi de Nagyappony Edit this on Wikidata
Plant Leka, Crown Prince of Albania Edit this on Wikidata
Teulu Xhelal Bey Zogu, Princess Senije Zogu Edit this on Wikidata
Llinach House of Zogu Edit this on Wikidata
Gwobr/au Commander's Cross of the Order of Franz Joseph Edit this on Wikidata
Llofnod
Zogu Signature.svg

Roedd Zog, enw bedydd Ahmed Beg Zogolli (8 Hydref 18959 Ebrill 1961), yn frenin ar Albania (Albaneg: Nalt Madhnija e Tij Zogu I, Mbreti i Shqiptarëvet‎), o 1928 hyd 1939.

Cafodd Zog ei ddatgan yn frenin ar ôl bod yn brifweinidog ei wlad rhwng 1922 a 1924 a'i harlywydd rhwng 1925 a 1928.

Yn ystod ei deyrnasiad gadawodd i Albania syrthio dan ddominyddiaeth economaidd yr Eidal. Pan oresgynwyd y wlad gan Benito Mussolini yn 1939 ffoes Zog i alltudiaeth.

Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Albania ar 8 Hydref 1895 fel dinesydd Otomanaidd ac roedd yn ddisgynydd gan deulu cyfoethog o dirfeddianwyr. Ei enw cyffredin oedd Ahmed Zongolli, a newidiwyd i Zogu yn 1922 (sy'n golygu aderyn yn Albaneg). Yn 9 oed fe'i hanfonwyd i Istanbul ar gyfer astudiaethau yn y Sultan Lyceum, a elwir yn Ysgol Uwchradd Galatasaray. Yna parhaodd ei astudiaethau yn yr Ysgol Filwrol Otomanaidd yn Monastir. Ym 1912, gyda chychwyn y Rhyfeloedd Balcan, dychwelodd i Albania a chymerodd drosodd arweinyddiaeth ei lwyth, y Mat (ardl sydd ynghannol Albania, ychydig i'r gogledd a enwir ar ôl afon i'r un enw) wedi i'r dad farw yn 1911.

Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe'i saflewyd yn y fyddin Awstria-Hwngari, a oedd yn perthyn i'r Pwerau Canolog ac yn ymladd â lluoedd yr Entente. Yn wreiddiol, fe'i gosodwyd yn Fienna yn 1917-1918 ac yn ddiweddarach yn Rhufain, 1918-1919. Yn 1919 dychwelodd i Albania lle dechreuodd ymwneud gyda'r gwrthdaro gwleidyddol oedd yn y wlad.

Gwleidyddiaeth Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

O fis Ionawr ac yn swyddogol o fis Mawrth i fis Tachwedd 1920, cymerodd drosodd y Gweinidog Cartref gan drefnu gwrthwynebiad Albanaidd yn erbyn ymosodiadau Iwgoslafia. Y flwyddyn ganlynol (1921) cafodd ei enwi'n bennaeth heddluoedd arfog Albaniaidd. Yn 1922, ailetholwyd yn Weinidog Cartref. Yn yr un flwyddyn (1922) bu'n Brif Weinidog, ond fe'i ddiorseddwyd gan garfan o 'bey' (arglwyddi) o dan arweiniad prif gelyn Zogu, Fan Noli. Dihangodd Zogu i Iwgoslafia. Yn 1924, ar ôl ymgais o lofruddio, gdychwelodd drwy rym milwrol ac ar 21 Ionawr 1925, fe'i hetholir yn llywydd gweriniaeth Albania. Aeth ati i geisio greu llywodraeth 'orllewinol' ei safonau rhwng 1925-1932. Yn 1922, newidiodd Zogolli ei gyfenw yn ffurfiol o'r enw Zogolli i Zogu, sy'n swnio'n llai Twrceg a mwy Albaneg.[1]

Brenin yr Albaniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Königliches Monogram

Ar 25 Mehefin 1928 daeth Zogu â'r Weriniaeth i ben ac ar 1 Medi 1928 datganodd ei hun yn frenin cyntaf Albania gan greu cyfansoddiad o frenhiniaeth absoliwt dros bolisi cartref a thramor y wlad. Newidiodd Arlywydydd Zogu i Zog I, Brenin yr Albaniaid (Mbret i Shqiptarëve yn Albaneg) gan gydnabod bod Albaniaid yn byw y tu allan i'r wladwrieth a chydnabod dyhead Albania Fawr. Mabwysiadodd yr enw Zog fel ei enw brenhinol yn hytrach na'i enw cyntaf Ahmed, gan iddo gredu y byddai enw Mwslemaidd yn ei ddieithrio oddi ar y llwyfan Ewropeaidd. Cymeroedd hefyd yr enw cyfochrog, Skanderbeg III, fel ymgais i ymygyslltu ei hun â'r arwr ac arweinydd Albanaidd o'r Oesoedd Canol, Skanderbeg.

Er bod Zogu yn ddeallus ac yn egnïol iawn, gall fod yn ddiffygiol ym maes diplomyddiaeth a'r chrefftwaith (a thwyll) ac yn naif wrth greu yr hyn a ddywedwyd iddo gan wleiyddion tramor. Achosodd y diffyg profiad tramor hyn i annibyniaeth ei wlad gael ei thanseilio.

Ymddieithiodd ei hun oddi wrth y gwledydd cyfagos gan ymgysylltu ei hun yn agos â'r Eidal ffasgaidd gan gredu ei haddewidion Eidalaidd. Arwyddodd gyfres o gytundebau economaidd, milwrol a hyd yn oed gwleidyddol, ac roedd yn llythrennol yn ymgorffori wlad i'r Eidal.

Tanseiliwyd Zog ymhellach gan na chafodd gydnabyddiaeth fel brenin cyfansoddiadol gan deuluoedd brenhinol eraill Ewrop. Er mwyn goresgyn y rhwystr hwn, ceisiodd briodi gydag aelod o deulu nobel o fewn Ewrop. Ar ôl nifer o sawl ymgais aflwyddiannus, priododd y Countess Geraldini, o dŷ Hwngareg y Karolyi ym mis Ebrill 1939. Gydaf hyn gallodd alw ei hun yn Dywysog Skender ar 5 Ebrill, 1939. Ond, er gwaethaf cysylltu â'r teuluoedd brenhinol, aflwyddiannus bu ymgais Zog i gael ei gydnabod yn frenin gan lywodraethau'r Gorllewin.

Pan ystyriodd yr Eidal yr amser yn ymarferol, penderfynwyd ymosod ar Zog ac Albania. Felly, ar 7 Ebrill 1939, ddau ddiwrnod ar ôl genedigaeth Leka, olynydd y orsedd Albanaidd, glaniodd milwyr Eidalaidd yn Albania gan ddi-orseddu Zogo. Cynigiodd Unben yr Eidal, Benito Mussolini, goron Albania i Frenin yr Eidal, Vittorio Emanuele III.

Achosodd ymosodiad yr Eidal ar y wladwriaeth Albaniaidd gyd-ymdeimlad byd-eang i Zog ac Albaniad. Apeliwyd ac gydymdeimlad pobl gan y ffaith i'r Eidal ymosod ar ddydd Gwener y Groglitha bod y Frenhines Geralini wedi gorfod ffoi o'r wlad gyda' baban deuddydd oed yn ei breichiau.

Dihangodd Zog a'i deulu yn gyntaf i Wlad Greog lle cawsant loches gan lywodraeth Metaxas. Oddi yno, aethant mewn llong i Loegr ac yna i Baris yn gofyn i gynghreiriaid am gymorth milwrol i'w gwlad. Ond gyda meddiannaeth Paris gan yr Almaenwyr, ffodd y teulu brenhinol Albania i Alexandria ac oddi yno i Dde Affrica.

Ar diwedd yr Ail Ryfel Byd, ym 1946, pan drosglwyddwyd Albania yn gyfundrefn gomiwnyddol, cafodd Zogu ei ddiorseddi'n swyddogol. Yn fuan wedi i Zog symud yn barhaol i Ffrainc lle y bu farw ar 9 Ebrill o 1961 yn 66 oed.

Delweddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagflaenydd:
swydd newydd
Arlywydd Albania
1 Chwefror, 19251 Medi, 1928
Olynydd:
dim
(o 1944 Omer Nishani)
Rhagflaenydd:
William
(fel Tywysog Albania)
Brenin Albania
1 Medi 19287 Ebrill 1939
Olynydd:
Vittorio Emanuele III
(meddiannaeth Eidalaidd)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Balázs Trencsényi; Michal Kopeček (2006). Discourses of collective identity in Central and Southeast Europe (1770–1945): texts and commentaries. Central European University Press. p. 177. ISBN 978-963-7326-61-5. Adalwyd 23 January 2013. Ahmet Zogu (who had changed his name from the Turkish sounding 'Zogolli' to the more Albanian sounding 'Zogu')  Check date values in: |access-date= (help)