Zelda Fitzgerald

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Zelda Fitzgerald
Zelda Fitzgerald portrait.jpg
Ganwyd Zelda Sayre Edit this on Wikidata
24 Gorffennaf 1900 Edit this on Wikidata
Montgomery Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mawrth 1948 Edit this on Wikidata (47 oed)
Achos: tân mawr Edit this on Wikidata
Asheville Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Sidney Lanier Edit this on Wikidata
Galwedigaeth nofelydd, bardd, hunangofiannydd, ysgrifennwr, cymdeithaswr, newyddiadurwr, arlunydd, arlunydd, dawnsiwr Edit this on Wikidata
Tad Anthony D. Sayre Edit this on Wikidata
Priod F. Scott Fitzgerald Edit this on Wikidata
Plant Frances Scott Fitzgerald Edit this on Wikidata
Gwobr/au Oriel yr Anfarwolion Alabama Edit this on Wikidata

Awdures o Unol Daleithiau America oedd Zelda Fitzgerald (24 Gorffennaf 1900 - 10 Mawrth 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, bardd, arlunydd, cymdeithaswr, newyddiadurwr, dawnsiwr, nofelydd a hunangofiannydd.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Zelda Fitzgerald (Sayre gynt) yn Montgomery, Alabama yr ieuengaf o chwech o blant. Roedd ei thad yn farnwr ac yn un a fynnai ei disgyblu, yn wahanol i'w mam, a oedd wedi dotio arni. Dechreuodd gael gwersi dawnsio pan oedd yn ifanc a pharhaodd i gael gwersi ballet pan oedd yn yr ysgol uwchradd. Yn ddiweddarach, daeth Zelda i gael ei hadnabod fel yr American Flapper cyntaf – sef cenhedlaeth o ferched gorllewinol yn yr 1920au a oeddd yn torri yn erbyn y tresi o safbwynt eu hymddygiad cymdeithasol beiddgar, gan wisgo sgertiau byrion a gwalltiau mewn steil ‘bob’. Byddent hefyd yn hoff iawn o wrando ar Jazz. Yn wir daeth Zelda Fitzgerald a’i gŵr, y nofeydd F. Scott Fitzgerald, i fod yn symbolau o’r Oes Jazz yn America. Buan iawn y daeth y ddau i fod yn enwogion o fri yn Efrog Newydd. Treuliodd y ddau gyfnodau hir dramor, yn arbennig felly ym Mharis. Ganwyd un ferch iddynt, Frances ‘Scottie’ Fitzgerald, ond bu’n briodas gythyrblus gyda llawer o ddiota a ffraeo ac anffyddlondeb ac roedd y ddau ohonynt yn byw ar wahân pan fu farw Scott yn sydyn yn 1940. Cafodd Zelda Fitzgerald ddiagnosis o Sgitsoffrenia yn 1930 ac yn dilyn hyn roedd hi’n gynyddol yn cael ei chyfyngu i glinigau arbenigol. Ar ddiwedd ei hoes roedd yn glaf mewn ysbyty yn Ashville, Gogledd Carolina, a bu farw mewn tân yn yr ysbyty yn 1948.[1][2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Zelda ei haddysgu yn Ysgol uwchradd Sidney Lanier. Er ei bod yn blentyn disglair, ni ddangosodd unrhyw ddiddordeb yn ei gwersi ac yn yr ysgol uwchradd canolbwyntiai yn bennaf ar ei bywyd cymdeithasol.  Dechreuodd ysgrifennu i gylchgronnau wedi iddi briodi, gan werthu, yn bennaf, straeon byrion ac erthyglau  oedd yn gysylltiedig â’i ffordd o fyw. Cyhoeddwyd yr erthygl ‘Eulogy on the Flapper’ yn y Metropolitan Magazine ym mis Mehefin 1922 er enghraifft. Yn ddiweddarach, bu’n cydweithio gyda’i gŵr ar ddrama The Vetgetable ond ni fu’n llwyddiannus. Tra oedd yn derbyn triniaeth yn nghlinig Phipps, yn Ysbyty Johns Hopkins yn Baltimore, ysgrifennodd Zelda nofel gyfan mewn chwe wythnos. Ni dderbyniodd gefnogaeth ei gŵr pan anfonodd y nofel i’w chyhoeddi, a chymharol gyfyngedig fu gwerthiant Save Me the Waltz, hynny wedi i’w gŵr fynnu bod rhannau o’r nofel yn cael eu hepgor gan ei fod yn cynnwys deunydd yr oedd ef ei hun ar fwriad i’w ddefnyddio. Dyma’r unig nofel iddi ei chyhoeddi. Mae ysgolheigion yn parhau i archwilio ac i drafod pa ran chwaraeodd Scott a Zelda yn llesteirio creadigrwydd y naill a’r llall.  Mae ysgolheigion hefyd, yn dilyn ei marwolaeth, wedi astudio llawer ar ei gweithiau celf a gadwyd mewn atig gan amrywiol aelodau o’i theulu yn ystod yr 1950au a’r 1960au. Llosgwyd llawer o’i gweithiau cynnar gan ei mam.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Anthony Dickinson Sayre (April 29, 1858 – November 17, 1931), Cline 2003, t. 27
  2. Milford 1970, t. 69; Cline 2003, t. 81; Bruccoli 2002, t. 131; Bryer, Jackson R. "A Brief Biography." In Curnutt 2004, t. 31
  3. Milford 1970, t. 16
  4. Milford 1970, t. 92