Antibes
Gwedd
| Math | cymuned, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 77,637 |
| Pennaeth llywodraeth | Jean Leonetti |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Alpes-Maritimes |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 26.48 km² |
| Uwch y môr | 0 metr, 163 metr, 43 metr |
| Gerllaw | Brague, Y Môr Canoldir |
| Yn ffinio gyda | Biot, Valbonne, Vallauris, Villeneuve-Loubet |
| Cyfesurynnau | 43.58°N 7.1231°E |
| Cod post | 06160, 06600 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Antibes |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jean Leonetti |
![]() | |
Dinas a commune yn ne Ffrainc yw Antibes. Saif ar arfordir y Côte d'Azur, yn département Alpes-Maritimes. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 72,412.
Yn y 5g CC, ymsefydlodd Groegiaid o Massillia (Marseilles heddiw) yn yr ardal, gan sefydlu tref dan yr enw Antipolis. Cafodd yr enw am ei bod gyferbyn a thref Nikè (Nice heddiw) yr ochr arall i fae y Baie des Anges. Tyfodd yn ddinas bwysig yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Dan frenhinoedd Ffrainc, datblygodd yn amddiffynfa bwysig, ac adeiladwyd y Fort Carré gan y peiriannydd sifil milwrol enwog Vauban.
Mae'r eglwys gadeiriol yn nodedig, ac yn y Château Grimaldi (Château d'Antibes) ceir y Musée Picasso.
