Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
| Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf | |
|---|---|
| Bishop of Llandaff Church in Wales High School | |
| |
| Arwyddair | Faith in Education |
| Ystyr yr arwyddair | Ffydd mewn Addysg |
| Sefydlwyd | 1960 |
| Math | Cyfun, Gwirfoddol |
| Cyfrwng iaith | Saesneg |
| Crefydd | Cristnogol |
| Pennaeth | Y Parch. C. G. Hollowood |
| Arbenigedd | Coleg Chweched Ddosbarth |
| Lleoliad | Rockwood Close, Llandaf, Caerdydd, Cymru, CF5 2NR |
| AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
| Staff | tua 110 |
| Disgyblion | tua 1,400 |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–18 |
| Llysoedd | St John (coch) St Paul (melyn) St Teilo (gwyrdd) St David (glas) |
| Gwefan | bishopofllandaff.cardiff.sch.uk |
Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal Llandaf, Caerdydd yw Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf (Saesneg: Bishop of Llandaff Church in Wales High School).
Mae'n ysgol ar gyfer plant 11 i 18 oed, sy'n gwasanaethu ardal Caerdydd ac ardaloedd cyfagos, megis Bro Morgannwg, Pontypridd a Phen-y-bont. Er bod yr ysgol yn cael ei rheoli yn rhannol gan yr Eglwys yng Nghymru, mae disgyblion Cristnogol o enwadau eraill hefyd yn mynychu'r ysgol.
Rhestrwyd yr ysgol yn 189fed ysgol orau ym Mhrydain yn 2002, yn seiliedig ar gyfleusterau a chanlyniadau arholiadau.[1] Dyma oedd yr ysgol wladol ail orau yng Nghymru yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau yn 2007; gyda 89% o'r myfyrwyr yn llwyddo yn eu harholiadau. Y prifathro presennol yw'r Parchedig C.G. Hollowood, B.Ed., M.A, a gymerodd drosodd oddi wrth Dr. Leonard Parfitt yn 2002.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2008-08-17 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Top marks for high school. BBC (16 Tachwedd 2002).
