Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gymraeg Dewi Sant
Arwyddair Ymdrech a Lwydda
Sefydlwyd 1 Mawrth 1947
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Gethin Thomas
Lleoliad Rhodfa Bryndulais, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA14 8RS
AALl Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgyblion 455 (2009)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Lliwiau      Glas golau
Gwefan http://www.ysgolccc.org.uk/dewisant/

Ysgol gynradd Gymraeg yn Llanelli yw Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Fe'i henwir ar ôl Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Agorwyd Ysgol Gymraeg Dewi Sant ar Ddydd Gŵyl Dewi 1947, yn ysgoldy Capel Seion.[2] Hon oedd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf i'w chynnal yn llwyr gan Awdurdod Addysg Lleol,[3] gan gychwyn pennod newydd yn hanes addysg yng Nghymru. Olwen Williams oedd prifathrawes gyntaf yr ysgol,[2] a gwasanaethodd am 25 mlynedd. Olynwyd gan John Morris Williams, ac o dan ei arweiniad tyfodd yr ysgol i fod yn un o ysgolion cynradd mwyaf Dyfed. Erbyn 2009, roedd 455 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol.[1]

Cyn-ddisgyblion o nôd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Adroddiad Arolygiad Estyn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 5 Hydref 2009. Estyn (8 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
  2. 2.0 2.1  Llanelli: Ysgol Dewi Sant yn dathlu 60. BBC Lleol: De Orllewin. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
  3.  Hanes Tre'r Sosban. BBC Cymru. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]