Ysbyty Al-Shifa

Oddi ar Wicipedia

Prif ysbyty dinas Gaza a'r ysbyty mwyaf yn Llain Gaza, Palesteina, yw Ysbyty Al-Shifa. Fe'i lleolir ger canol dinas Gaza. Mae'n ysbyty athrofaol a ystyrir yn un o'r rhai gorau yn Llain Gaza. Daeth yn adnabyddus ledled y byd oherwydd y lluniau a ddarlledid oddi yno yn ystod ymosodiad Israel ar Gaza ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009.

Effaith yr embargo Israelaidd[golygu | golygu cod]

Mae'r ysbyty wedi dioddef problemau mawr ers 2006 ac yn enwedig ers i Israel osod embargo a gwarchae (blockade) economaidd a dynol ar Lain Gaza ar ôl i Hamas gael eu hethol i rym yno yn 2007. Yr adeg yna, nododd y Dr. Al-Saqa, llefarydd yr ysbyty, fod gallu Al-Shifa i gyflenwi gofal o safon i gleifion yn cael ei amharu gan yr embargo am fod ychydig iawn o feddyginiaethau ac offer meddygol yn cyrraedd Gaza.

Mewn cyrch awyr yn haf 2006, dinistriodd awyrennau Israel pwerdy'r ysbyty a bu rhaid dibynnu ar generators yr ysbyty ei hun am 18 awr y dydd. Esboniodd y Dr. Al-Saqa y byddai trychineb yn digwydd pe bai'r generators hynny yn methu, gyda chleifion gofal dwys, yn cynnwys babanod newyddanedig, yn debyg o ddioddef yn waethaf. Roedd banc gwaed a storfa cyffuriau yr ysbyty yn dibynnu ar drydan hefyd.[1]

Effaith rhyfel 2008-2009[golygu | golygu cod]

Plant dychrynedig yn Ysbyty Al-Shifa yn ystod yr ymosodiad ar ddinas Gaza, Ionawr 2009.

Daeth Al-Shifa yn enw cyfarwydd i filiynau o wylwyr o gwmpas y byd oherwydd y lluniau teledu o'r Palesteiniaid yn yr ysbyty a laddwyd ac a anafwyd yn ymosodiad Israel ar Gaza ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009. Erbyn dechrau Ionawr 2009 roedd yr ysbyty yn orlawn gyda phobl anafiedig, yn ferched, plant a sifiliaid eraill, yn gorwedd ar y llawr yn y coridoriau a'r meddygon a staff yn methu ymdopi a'r llif.

Mae staff Al-Shifa yn cynnwys y Dr. Erik Fosse, un o dri feddyg gwirfoddol o Norwy sy'n gweithio yn yr ysbyty. Mewn cyfweliad ar 4 Ionawr 2009, dywedodd mai plant oedd 30% o'r dioddefwyr a gludwyd i'r ysbyty - yn farw neu'n anafiedig - ar y diwrnod hwnnw. Cafodd tri o barafeddygon yr ysbyty eu lladd gan fomiau Israel hefyd wrth yrru trwy Gaza yn eu ambiwlans i geisio achub sifiliaid anafiedig. Ychwanegodd y Dr. Fosse "fod meddygon yn rhoi llawdriniaeth yn y coridoriau, y cleifion yn gorwedd ymhobman, a phobl yn marw cyn iddynt allu gael triniaeth".[2]

Ers i'r ymosodiad ar dir gan Israel gychwyn a chyflenwad trydan Gaza gael ei dorri bu'r ysbyty yn gorfod dibynnu ar ei generators ei hun i gyflenwi trydan. Erbyn 5 Ionawr 2008 roeddent wedi bod yn rhedeg am dros 48 awr yn ddibaid ac ofnwyd trychineb pe baent yn methu. Fel arfer mae'r peiriannau hyn yn fod i redeg am oriau yn unig, fel pwer wrth gefn yn unig, a dydyn nhw ddim wedi'u bwriadu ar gyfer rhedeg yn ddibaid am gyfnodau hir. Galwodd pennaeth UNRWA Llain Gaza yn yr ysbyty a chyhoeddodd fod sifilaid Gaza, ac yn enwedig yr anafiedig mewn ysbytai fel Al-Shifa, yn wynebu "sefyllfa catastroffig".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Defence for Children International, Palestine Section: "Al-Shifa Hospital and Israel's Gaza Siege" 16.07.2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-21. Cyrchwyd 2009-01-05.
  2. "Under-equipped Gaza hospitals severely strained" 04.01.2009[dolen marw] Press TV.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]