Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Yr Hen Goleg
Mathadeilad prifysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1864 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4149°N 4.08827°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolGothig Blodeuog Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Mae adeilad yr Hen Goleg ar rodfa’r môr yn Aberystwyth yn adeilad rhestredig Gradd I[1] ac yn eiddo i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n enghraifft o adeilad yn yr arddull neo-gothig o’r 19g. Yr adeilad hwn oedd yr adeilad cyntaf i'w brynu yn yr ymgyrch i sefydlu Prifysgol Cymru. Erbyn 2014 mae’r rhan fwyaf o weithgareddau’r coleg wedi cael eu symud o’r adeilad hwn, ac mae cynlluniau ar y gweill i addasu’r adeilad at ddefnydd newydd.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yr adeilad cyntaf i’w adeiladu ar y safle hwn oedd Castle House. Cynlluniwyd yr adeilad gan John Nash ar gais Syr Uvedale Price, a fynnai adeiladu tŷ pictiwrésg i’w wraig. Adeiladwyd y tŷ tua 1795[3] ar ffurf triongl gyda thyrrau wythonglog ar bob pen iddo. Gwerthwyd yr adeilad sawl gwaith hyd y 1860au a’i ehangu yn y steil gwreiddiol. Erbyn hynny roedd dyfodiad y rheilffordd wedi denu nifer o wŷr busnes i ddechrau datblygu Aberystwyth yn le gwyliau. Yn eu plith roedd Thomas Sevin, a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r rheilffordd o Fachynlleth i Aberystwyth. Prynodd Castle House a mynd ati i’w ehangu a’i droi’n westy modern, moethus, gan gyflogi J. P. Seddon yn 1864 i gynllunio’r gwaith. Roedd yn ras wyllt arno i gwblhau’r gwaith adeiladu er mwyn gallu agor y gwesty. Oherwydd hyn, roedd y llu o weithwyr a gyflogwyd yn bwrw iddi’n gyflymach nag y gallai J. P. Seddon ddarparu cynlluniau manwl iddynt. Cyflogwyd dylunwyr i wneud cynlluniau wedi eu seilio ar fodel pren o waith J. P. Seddon. Mae ôl y brysio hwn i’w weld ar y cerrig, rhai cerfiedig a rhai heb eu cerfio, sydd i’w gweld ochr yn ochr ar fwa maen tu fewn i’r adeilad. Erbyn mis Mehefin 1865 roedd digon o waith wedi ei wneud i allu agor y Castle Hotel i ymwelwyr, wedi ei oleuo trwy ynni nwy. Ond roedd sefyllfa ariannol J. P. Seddon yn rhy fregus iddo gwblhau’r gwaith datbygu. Ar ôl gwario £80,000 ar y Castle Hotel, bu’n rhaid iddo rhoi’r gorau iddi a cheisio ei werthu.

Yr Hen Goleg yn 1885 gydag un o dyrrau wythonglog Castle House i'w weld yn gwynebu'r môr, tua chanol yr adeilad

Roedd prinder darpariaeth addysg bellach yng Nghymru yr adeg honno. Roedd Hugh Owen yn arwain yr ymdrech i sefydlu prifysgol i Gymru. Gyda chefnogaeth brwd y capeli anghydffurfiol, fe gasglwyd arian o bocedi gwerin Cymru, gan ddechrau gyda chwarelwyr gogledd Cymru. Erbyn canol 1865 roedd £5,000 wedi ei gasglu. Bachodd pwyllgor Hugh Owen y cyfle i brynu adeilad y Castle Hotel, gan dalu £10,000 amdano ym mis Mawrth 1867. Rhaid oedd casglu rhagor o arian eto cyn gallu agor y ‘Coleg Ger y Lli’ ar y safle hwn yn 1872. O hynny ymlaen byddai hanes yr adeilad yn rhan anatod o hanes coleg Aberystwyth. Gwelodd yr adeilad sawl achlysur mawreddog, gan gynnwys dathlu sefydlu Prifysgol Cymru drwy siarter frenhinol yn 1896 ym mhresenoldeb Tywysog Cymru a llu o fawrion.

Y Cwad

Ym mis Mehefin 1885 niweidiwyd yr adeilad gan dân a laddodd tri o’r rhai a fu’n ymladd y tân. Ond ail-adeiladwyd ac wrth bod y coleg yn ehangu ac yn datblygu, cafwyd newidiadau i’r adeilad. Codwyd arian yn 1890 i ddodrefnu Llyfrgell y Coleg. Yn 1893 gosodwyd to ar ben y clos yng nghanol yr adeilad, gan ffurfio cwadrangl. Dymchwelwyd y darn gwreiddiol o’r adeilad o ddyddiau Castle House ym 1897.[4] Adeiladwyd bloc yn steil y Frenhines Anne yn ei le, yn ôl cynlluniau C. J. Ferguson,[5] i’w ddefnyddio’n bennaf gan adrannau’r gwyddorau gwyddonol.

Buan iawn y tyfodd nifer y myfyrwyr a’r pynciau y cynigiwyd iddynt yn fwy nag y gellid eu dysgu yn yr adeilad hon. Erbyn diwedd y 19g roedd y coleg wedi dechrau prynu tir ac adeiladau eraill er mwyn ehangu. Yn y 1960au a’r 1970au adeiladwyd campws newydd ar riw Penglais, gan drosglwyddo mwy a mwy o’r gwaith dysgu o’r ‘Hen Goleg’, gan adael y gwaith gweinyddu yno.[6] Erbyn 2014 symudwyd y rhan fwyaf o'r gwaith gweinyddu oddi yno hefyd, gan adael yr Hen Goleg i ddisgwyl cael hyd i ddefnydd newydd unwaith eto.

Ail-fywyd[golygu | golygu cod]

Yn dilyn symud adrannau'r Brifysgol i gyd i'r campws ar Riw Penglais, ceisiwyd canfod rôl newydd i'r Hen Goleg. Yn 2016 gwnaed cais am arian o gronfa'r Loteri gan Brifysgol Aberystwyth i adfer yr adeilad a dod â bywyd newydd iddi.[7]. Bu'r cais yn llwyddiannus a datgelwyd ym mis Gorffennaf 2017 bod y Brifysgol am dderbyn £10.5m gan y Loteri i ad-newyddu a datblygu'r adeilad.[8] Mae'r arian yn rhan o adferiad, fydd yn costio cyfanswm o tua £22m, i droi'r Hen Goleg yn ofod artistig a pherfformio, gyda chaffi ac ystafelloedd cymunedol yn ogystal ag amgueddfa'r brifysgol.

Cerfluniau[golygu | golygu cod]

Mae dau gerflun yn sefyll tu allan i’r adeilad wrth ymyl rhodfa’r môr:

Yn y cwad tu fewn saif dau gerflun arall:

  • Cerflun efydd o Thomas Edward Ellis AS gan Goscombe John (1903)
  • Cerflun efydd o'r Gwir Anrhydeddus Henry Austin, Barwn Aberdâr, canghellor cyntaf Prifysgol Cymru

Mosäig[golygu | golygu cod]

Cynlluniwyd y mosäig ar fur allanol y pen deheuol gan C. F. A. Voysey. Archimedes a ddangosir yn y panel canol.[12]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • W. J. Lewis, Born on a Perilous Rock, tt. 171–180, The Cambrian News (Aberystwyth) Ltd (1980)
  • D. Ellis, The College by the Sea (1928), tt. 29–46

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein; Archifwyd 2013-01-27 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23 Mehefin 2014; Rhif Cadw: NPRN 96582.
  2.  Bywyd Newydd i'r Hen Goleg. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
  3.  University College of Wales Old College Building, Aberystwyth. www.britishlistedbuildings.co.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
  4.  Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. www.coflein.gov.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
  5.  Castle House Hotel; Old College, University of Wales, Aberystwyth. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
  6. W. J. Lewis, Born on a Perilous Rock, tt. 171–180, The Cambrian News (Aberystwyth) Ltd (1980)
  7. https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2016/06/title-185179-cy.html
  8. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/40720454
  9.  Prince of Wales Statue, New Promenade, Aberystwyth. www.coflein.gov.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
  10.  Duke's Head is Back in Business. Cambrian News. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
  11.  Thomas Edwards Statue, New Promenade, Aberystwyth. www.coflein.gov.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.
  12.  University of Wales Old College Building, Aberystwyth. www.britishlistedbuildings.co.uk. Adalwyd ar 22 Mehefin 2014.