Gwales
![]() | |
Math | ynys, nythfa adar, gwarchodfa natur, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.089 km², 11.97 ha ![]() |
Uwch y môr | 42 metr ![]() |
Gerllaw | Sianel San Siôr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.730902°N 5.479714°W ![]() |
Hyd | 0.5 cilometr ![]() |
Rheolir gan | Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
- Ar gyfer y wefan o'r un enw, gweler Gwales.com.
Ynys fechan anghyfanedd i'r gorllewin o Ynys Skomer oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Gwales (hefyd Ynys Gwales; Saesneg: Grassholm o'r geiriau Hen Norseg grass "gwair" a holm "ynys isel"). Gwales yw'r tir mwyaf gorllewinol yng Nghymru.
Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n adnabyddus i ornitholegwyr am ei choloni anferth o fulfrain gwynion (huganau); 32,409 o barau yn 2004, sef tua 8% o boblogaeth y byd. Ers 1947 mae'n eiddo i'r RSPB, y warchodfa gyntaf i'r gymdeithas honno brynu. Dyma'r trydydd nifer mwyaf yn Ewrop a'r 4ydd drwy'r byd.
Mae Gwales wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Mabinogi[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn llenyddiaeth Gymraeg mae Gwales yn fwy adnabyddus fel yr ynys arallfydol y mae'r saith arwr a ddihangasant o Iwerddon yn treulio 80 mlynedd arni yng nghwmni pen Bendigeidfran, yn ôl chwedl Branwen ferch Llŷr, ail gainc Pedair Cainc y Mabinogi:
- Ac yng Ngwales ym Mhenfro y byddwch bedwarugaint mlynedd. Ac yny agoroch y drws parth ag Aber Henfelen, y tu at Gernyw, y gellwch fod yno a'r pen yn ddilwgr gennwch.[2]
Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae llongau pleser yn hwylio i Wales o Martin's Haven yn yr haf.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013
- ↑ Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd, 1989). Tud. 45. Diweddarwyd yr orgraff.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llun awyr o'r ynys Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback.