Y Cynghrair Hanseataidd

Oddi ar Wicipedia
Prif lwybrau masnach y Cynghrair Hanseataidd.

Cynghrair masnachol o ddinasoedd yng ngogledd yr Almaen a dinasoedd eraill o gwmpas y Môr Baltig, yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden, Gwlad Pwyl ac eraill oedd y Cynghrair Hanseataidd neu Gynghrair Hansa (Almaeneg: Hanse).

Yn ail hanner y 12g a dechrau'r 13g, datblygodd nifer o ddinasoedd masnachol pwysig yng ngogledd yr Almaen, megis Lübeck, Rostock, Wismar, Stralsund, Greifswald, Stettin, Danzig ac Elbing. Lübeck oedd y ddinas bwysicaf o fewn rhwydwaith o gysylltiadau masnachol, ac ystyrir fel rheol mai yma y dechreuodd y Cynghrair Hanseataidd. Ffurfiodd y ddinas gynghrair masnachol a Hamburg yn 1241. Ceir y term Hansa mewn dogfen am y tro cyntaf yn 1267. Tyfodd y cynghrair i gynnwys nifer fawr o ddinasoedd eraill. Sefydlwyd dinasoedd Almaenig eraill yn rhan ddwyreiniol y Môr Baltig, megis Danzig (Gdańsk), Elbing (Elblag), Thorn (Toruń), Reval (Tallinn), Riga a Dorpat (Tartu).

Dechreuodd grym y cynghrair edwino tua diwedd y 15g, a pharhaodd i edwino gyda thŵf gwladwriaethau sofran yn Ewrop, darganfyddiad America a datblygiad grym morwrol yr Iseldiroedd a Lloegr yn y ganrif ddilynol.

Bu i lwyddiant a grym economaidd y Gynghair arwain yn rannol at greu Undeb Kalmar gan y teyrnasoedd Llychlynaidd.