Y Bunt Binc

Oddi ar Wicipedia

Term sy'n disgrifio gallu prynu y gymuned LHDT yn y Deyrnas Unedig yw'r Bunt Binc. Weithiau defnyddir y term Punt Las ar gyfer lesbiaid yn benodol. Yn yr Unol Daleithiau, y gallu prynu hwn yw'r Ddoler Binc.

Amcangyfrifir werth y farchnad hoyw ym Mhrydain i fod £70 biliwn y flwyddyn.[1] Mae rhai grwpiau megis OutRage!, Ymgyrch LHDT yr UCM[2] a'r Queer Youth Alliance wedi beirniadu'r mabwysiad cyflym o nwyddau a gwasanaethau a anelir yn unig at bobl LHDT, gan eu bod yn gweld agweddau negyddol cymdeithas fwy yn treiddio'r gymuned LHDT, yn enwedig masnacheiddiwch (yn cynnwys trin pobl LHDT fel cynulledifa neu segment marchnad ar wahân), cydffurfiaeth, a getoeiddio.

Ystyrir yn aml fod y bunt binc yn gyfrifol am werthiant uchel cynnyrch penodol sy'n debyg yn cael eu ffafrio gan nifer fawr o bobl hoyw; fwyaf nodedig yw gwerthiannau recordiau gan eiconau hoyw cerddorol megis Madonna, Kylie Minogue a Cher. Mae marchnad fawr o nwyddau a gwasanaethau am hoywon wedi ymddangos mewn blynyddoedd diweddar, yn cynnwys gwasanaethau priodas gyfunryw (werth tua £600 miliwn y flwyddyn),[3] cyfryngau LHDT (yn cynnwys y wasg, radio a theledu), a gwasanaethau domestig megis adeiladwyr a phlymwyr.

Canlyniadau cymysg sydd gan ymchwil i mewn i'r bunt binc. Yn ôl Adolygiad Cydraddoldeb Prydain 2006 mae hoywon a lesbiaid ifanc, sy'n dioddef o homoffobia mewn ysgolion, yn fwy tebygol i adael addysg yn gynnar.[4] Felly mae ganddynt sgiliau addysgol is; amcangyfrifir y colled mewn cynhyrchedd i fod tua £80 biliwn y flwyddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Curtis, Polly (23 Ionawr, 2006). Gay men earn £10k more than national average. The Guardian. Adalwyd ar 26 Ionawr, 2008.
  2. (Saesneg) Stonewall was a riot - LGBT Conference, 16th-18th June. officeronline.co.uk (UCM) (20 Gorffennaf, 2006). Adalwyd ar 26 Ionawr, 2008. "challenging the "pink pound" and gay capitalism as the answer to our oppression"
  3. (Saesneg) Frith, Maxine (5 Rhagfyr, 2005). Pink pound boom as companies cash in on gay weddings. The Independent. Adalwyd ar 26 Ionawr, 2008.
  4. (Saesneg) The Equalities Review.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]