William Roberts (awdur)
William Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 25 Medi 1809 Llannerch-y-medd |
Bu farw | 1887 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr |
Gweinidog o Gymro oedd William Roberts (25 Medi 1809 – 1887).
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Llanerchymedd. Offeiriad o'r enw John Richards a addysgwyd William Roberts. Mynychodd a ysgol William Griffith, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Caergybi. Yn 1829 dechreuodd Roberts bregethu yng nghapel Hyfrydle, Caergybi. Aeth ymlaen i Ddulyn am ychwaneg o addysg. Daeth rai o Gymry Dulyn at ei gilydd, gan ffurfio eglwys Gymraeg yn y ddinas. Creda llawer mai ef yw un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Sir Fon erioed.
Cafodd ei ordeinio yn 1848. Yn 1855, aeth i fugeilio eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Efrog Newydd, ble ddaru arolygu argraffiad y Beibl Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd yn 1858.[1]
Blynyddoedd Olaf
[golygu | golygu cod]Yn 1877 symudodd o Efrog Newydd i fugeilio eglwys Mariah, Utica, ac arhosodd yno am 10 mlynedd, tan bu farw yn 1887.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Moriah, Utica, N.Y., U.S.A., 1830-1930, 1830-1930, 16-7;
- T. S. Griffiths, Hanes y Methodistiaid Calfinaidd yn Utica, N.Y. (Utica 1896), 1936, 92-104.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ROBERTS, WILLIAM (1809 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-16.