William Lort Mansel

Oddi ar Wicipedia
William Lort Mansel
Ganwyd2 Ebrill 1753 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 1820 Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Bryste, academydd Edit this on Wikidata

Roedd William Lort Mansel (2 Ebrill 1753 - 27 Mehefin 1820). Yn glerigwr Anglicanaidd a chymrawd Prifysgol. Bu'n Bennaeth Goleg y Drindod, Caergrawnt o 1798 hyd ei farwolaeth ym 1820, bu hefyd yn gwasanaethu fel Esgob Bryste rhwng 1808 a 1820.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Mansel ym Mhenfro, yn blentyn i William Wogan Mansel ac Anne (née Lort) ei wraig. Mae'n debyg bod y tad yn perthyn i Francis Mansell (1579 - 1665),[2] a fu deirgwaith yn bennaeth Coleg yr Iesu, Rhydychen ond mae'r union berthynas yn ansicr. Roedd ei fam yn perthyn i deulu Lort Stackpole, Sir Benfro ac yn chwaer i Michael Lort (1725 - 1790), athro Groeg, Goleg y Drindod, Caergrawnt.[3] Addysgwyd Mansel yn Ysgol Ramadeg Bryste cyn cael ei dderbyn i Goleg y Drindod ym 1770. Etholwyd ef yn ysgolhaig yn y coleg ym 1771, graddiodd BA ym 1774 ac MA ym 1777.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gwnaethpwyd Mansel yn gymrawd iau Coleg y Drindod ym 1775 a dyrchafwyd ef yn gymrawd llawn ym 1777. O 1775; bu'n athro'r clasuron yn y coleg. Parhaodd ei yrfa academaidd am weddill ei oes, o 1780 bu'n yrfa ar y cyd ag un eglwysig.

Ym 1780 ordeiniwyd Mansel yn ddiacon yn Petersborough ac yna'n offeiriad ym 1783. Fe'i penodwyd yn ficer Bottisham, Swydd Gaergrawnt, gan esgob Ely. Bu'n gwasanaethu fel deon iau ei goleg rhwng 1783 - 1784 a 1785 - 1786. Ym 1788 cyflwynodd ei goleg ficeriaeth Chesterton iddo, yn yr un flwyddyn fei penodwyd yn areithydd cyhoeddus (pregethwr swyddogol) ei goleg . Byddai'n pregethu'n aml o flaen y brifysgol. Bu'n gefnogwr brwd i lywodraeth William Pitt a fei penodwyd gan y llywodraeth i fod yn gaplan swyddogol Syr Richard Pepper Arden, Meistr y Rholiau'r llywodraeth.

Roedd un o aelodau amlwg o gylch y Prif Weinidog, Spencer Perceval, yn cyn disgybl i Mansel.[5] Pan ddaeth swydd pennaeth Coleg y Drindod yn wag awgrymodd Perceval bod Pitt yn cefnogi Mansel ar gyfer y swydd. Roedd anghydfod wedi bod yn y coleg a gyfodwyd gan radicaliaeth wleidyddol a chrefyddol ddau o'r cymrodyr, Thomas Jones [6] a James Lambert. Gan fod Mansel yn cael ei ystyried yn ddisgyblwr uniongred, cymeradwywyd ei benodiad a dechreuodd yn y swydd ar 25 Mai 1798.[7]

Parhaodd nawdd Spencer Perceval i Mansel. Ym 1808 pan oedd yn ganghellor y trysorlys, hyrwyddodd Perceval ymgeisyddiaeth Mansel ar gyfer esgobaeth Bryste. Fei cysegrwyd yn esgob ar 30 Hydref 1808. Gwobrwywyd ef ymhellach, ym 1810, â bywoliaeth gyfoethog Barwick in Elmet, Swydd Efrog, a oedd yn rhodd Perceval fel canghellor Dugiaeth Caerhirfryn.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1789 priododd Mansel â Isabella Haggerstone, merch cyfreithiwr o Gaergrawnt. Bu iddynt bum merch ac o leiaf dri mab, enwyd yr ieuengaf ohonynt, Spencer Perceval Mansel (1797-1862), ar ôl ei noddwr.[4]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Mansel yn llety'r pennaeth, Coleg y Drindod yn 67 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion yng nghapel y coleg.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MANSEL, WILLIAM LORT (1753 - 1820), pennaeth Coleg y Drindod, Caergrawnt, ac esgob Bryste | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-01-30.
  2. "MANSELL, FRANCIS (1579 - 1665), a fu deirgwaith yn bennaeth Coleg Iesu, Rhydychen | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-01-30.
  3. "LORT (TEULU), | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-01-30.
  4. 4.0 4.1 "Mansel, William Lort (1753–1820), bishop of Bristol and college head". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/17990. Cyrchwyd 2021-01-30.
  5. "Perceval, Spencer (1762–1812), prime minister". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/21916. Cyrchwyd 2021-01-31.
  6. "JONES, THOMAS (1756 - 1807), mathemategwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-01-31.
  7. "The Master of Trinity – Trinity College Cambridge". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-27. Cyrchwyd 2021-01-31.
  8. "William Lort Mansel (1753-1820) - Find A Grave..." www.findagrave.com. Cyrchwyd 2021-01-31.