William Jones (emynydd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Jones
Ganwyd 1764 Edit this on Wikidata
Cynwyd Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Mai 1822 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Liedermacher, emynydd Edit this on Wikidata

Emynydd Cymraeg oedd William Jones (17641822). Roedd yn frodor o Feirionnydd. Ysgrifennodd sawl emyn, yn cynnwys 'Dyma iachawdwriaeth hyfryd'.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed William Jones yng Nghynwyd ond symudodd i fyw yn Y Bala lle treuliodd y rhan fwyaf o'i oes gan ddod yn ffigwr adnabyddus yn y dref ar adeg pan y'i hystyrid yn "brifddinas Methodistiaeth" Gogledd Cymru dan "deyrnasiad" Thomas Charles o'r Bala. Gwehydd oedd wrth ei grefft. Cyhoeddwyd cyfrol o'i emynau yn 1819.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Aberth Moliant neu Ychydig Hymnau (1819).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.