William Jones (Bryntirion)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Jones
Ganwyd 1757 Edit this on Wikidata
Bontddu Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Chwefror 1830 Edit this on Wikidata
Bontddu Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth ffermwr, argraffydd Edit this on Wikidata

Roedd William Jones (1757, - 2 Chwefror, 1830) yn amaethwr a man bonheddwr Cymreig [1] a sefydlodd teulu o argraffwyr Cymreig. Roedd Jones y gyntaf mewn llinach hir o'i ddisgynyddion i fod yn berchennog gweisg a'r un fu'n gyfrifol am droi Dolgellau yn ganolfan pwysig i argraffu yng Nghymru'r 19 ganrif. [2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Jones yn y Tyddyn Du, Y Bontddu, Meirionnydd yn ail fab i Richard Jones, amaethwr Tyddyn Du a Catherine ei wraig. Does dim sicrwydd o union ddyddiad ei eni ond fe gafodd ei fedyddio ar 3 Ebrill 1757 ym mhlwyf Llanaber (Abermaw), mewn cyfnod pan fyddai plant yn cael eu bedyddio yn weddol fuan wedi eu geni. Does dim sicrwydd ym mhle cafodd ei addysgu chwaith, ond mae'n debyg ei fod wedi cael addysg dda gan ei fod wedi ei fwriadu i fynychu prifysgol i baratoi am offeiriadaeth Eglwys Loegr ac wedi dysgu Lladin, Groeg a Hebraeg i'r perwyl hwnnw. [3]

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Penderfynodd Jones i beidio â pharhau i baratoi am yr offeiriadaeth gan nad oedd o'n teimlo ei fod wedi cael galwad, go iawn gan Dduw, i wneud y gwaith. Byddai dod yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol wedi cael ei hystyried fel swydd barchus i feibion iau pobl gweddol lewyrchus a pharchus nad oedd fawr obaith iddynt etifeddu cyfran o olud y rhieni. Roedd y syniad o gael "galwad gan Dduw" i waith eglwysig yn perthyn i'r tueddiadau efengylaidd oedd yn dechrau codi yn ystod cyfnod ieuenctid Jones, megis y Methodistiaid. Mae'r ffaith ei fod wedi troi lawr y cyfle i ddyfod yn offeiriad yn awgrym cryf (ond nid prawf pendant) ei fod wedi cael ei ddylanwadu gan y sectau efengylaidd yn weddol ifanc. Cyn cyrraedd 25 oed roedd wedi dod yn aelod o seiat y Methodistiaid Calfinaidd yn ardal Dolgellau. Bu cwynion amdano yn y seiat ei fod a thueddiadau "cynulleidfaol", sy'n awgrymu ei fod wedi bod dan ddylanwad yr Annibynwyr cyn ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd. [3].

Bu'r cenhadwr Wesleaidd, Edward Jones (Bathafarn), yn pregethu yn fferm y Llechfrith, Bontddu yn gynnar ym 1808. Bu William Jones yn gwrando ar ei bregeth ac wedi'r oedfa gwahoddodd Bathafarn i dderbyn lluniaeth ar ei aelwyd. Cafodd ei gyhuddo gan aelodau'r seiat o fod yn heretic am wrando ar y bregeth a rhoi croeso i Fathafarn i'w dŷ. Cafwyd achos yn ei erbyn gan Gymdeithasfa'r Methodistiaid yn Nolgellau ym mis Tachwedd 1808 gyda chynnig i'w ddiarddel. Methodd y cynnig. Ychydig yn niweddarach bu John Bryan yn pregethu yn y Llechfrith, bu Jones yn gwrando arno ac estynnodd croeso iddo dderbyn lluniaeth yn ei dŷ. Ymadawodd a'r Methodistiaid Calfinaidd a daeth yn un o sylfaenwyr Wesleaeth yn ardal Dolgellau, gan adeiladu capel ar ei dir, Capel Nebo, Bontddu, ar gyfer yr enwad. [3]

Wedi ymwrthod a dymuniad ei dad iddo mynd i offeiriadaeth Eglwys Loegr prentisiwyd Jones i fod yn saer coed. Wedi farwolaeth ei dad etifeddodd fferm y Tyddyn Du ac wedi priod daeth i feddiant ystâd Bryntirion, a daeth yn dirfeddiannwr bach ond annibynnol o landlordiaid. Fel ŵr crefyddol penderfynodd bod cyhoeddi deunydd crefyddol cystal ffordd i ledaenu'r Efengyl a phregethu.

Roedd Thomas Williams, llyfrwerthwr o Ddolgellau, wedi sefydlu gwasg yn y dref tua 1798. Doedd y wasg ddim yn llwyddiannus iawn. Er bod Williams yn Eglwyswr driw, cytunodd i gynnig William Jones i brynu cyfranddaliad yn ei fenter tua 1801, ar yr amod bod Richard, ei fab yn ddod yn brentis iddo. [4] Pan ymunodd a'r Weslead ym 1808 prynodd Williams allan o'r fenter yn gyfan gwbl am bris ddigonol iddo gallu ymddeol. Gosododd Richard yn rheolwr y wasg, a throdd yn wasg enwadol, i bob pwrpas, i gyhoeddi deunydd Wesleaidd. Cyhoeddodd y wasg y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn Yr Eurgrawn Wesleyaidd ym mis Ionawr 1809. [5]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Catherine Evans merch Lewis Evans Ty Mawr & Ty'n yr Eithin, Tywyn ar 2 Gorffennaf 1784 yn Nhywyn, Meirionnydd, cawsant o leiaf naw o blant, bu ddwy ohonynt yn wragedd i weinidogion Wesla a merch arall yn wraig i Lewis Evans, argraffydd, Caernarfon.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn y Bontddu yn 78 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion yn Eglwys Llanaber, Abermaw. [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]