William Brodie

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd hysbysebu o Deacon Brodie

Roedd William Brodie (28 Medi, 1741 - 1 Hydref, 1788), a adwaenid yn fwy cyffredin gan ei deitl mawreddog Deacon Brodie, yn saer cistiau Albanaidd, yn ddiacon o urdd crefftwyr, ac yn gynghorydd dinas Caeredin. Roedd hefyd yn cynnal ail fywyd dirgel fel lleidr, yn rhannol ar gyfer y wefr ac yn rhannol er mwyn ariannu ei broblem gamblo.[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd William Brodie yng Nghaeredin yn fab hynaf Francis Brodie, saer a bwrgeisiwr a Cecily (nee Grant) ei wraig. Roedd ei dau daid yn gyfreithwyr uchel eu parch yn y ddinas[3]

Yn ôl poster dal troseddwr a gyhoeddwyd i geisio ei ddal roedd yn ddyn - tua 5 troedfedd 4 modfedd - yn fain o gorff, ac yn edrych yn iau na’i oedran. Roedd ganddo llygaid llawn, brown tywyll, gydag aeliau duon mawr, a chast yn ei lygad a roddodd iddo olwg Iddewig braidd. Roedd ganddo pryd llwyd a dull rhyfedd o siarad, gan siarad yn llawn ac yn araf[3].

Pan fu farw ei dad ym 1782 etifeddodd William waddol gwerth £10,000[4] (gwerth tua £15 miliwn o’i gymharu â GDP yr Alban yn 2016[5])

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Caeredin cyn cael ei brentisio i fusnes ei dad ym 1756

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y dydd roedd Brodie yn fasnachwr parchus. Roedd yn diacon (llywydd) urdd y seiri, trwy rinwedd bod yn ddiacon ar un o urddau’r crefftwyr roedd hefyd yn gwasanaethu fel aelod o Gyngor y Ddinas. Rhan o'i waith fel saer celfi oedd gosod a thrwsio cloeon a mecanweithiau diogelwch eraill. Fel diacon a chynghorydd roedd yn cael ei gyfrif fel y gorau yn ei faes. Byddai bonedd Caeredin yn troi ato ef os oeddent mewn angen cist gref neu waith clo.

Tu ôl i’r diacon parchus roedd cymeriad cwbl wahanol yn llechu. Yn y nos daeth Brodie yn lleidr. Defnyddiodd ei swydd fel modd o ganfod gwybodaeth am fecanweithiau diogelwch ei gleientiaid. Wrth osod neu drwsio cloeon ar eu cyfer bu’n creu copïau o’u hallweddi. Fel saer cloeon mwyaf blaenllaw'r ddinas, gofynnwyd I Brodie i weithio yn nhai rhai o aelodau cyfoethocaf cymdeithas Caeredin. Defnyddiodd yr arian a wnaeth trwy ei ddichell er mwyn cynnal ei ail fywyd, a oedd yn cynnwys gamblo ar ymryson ceiliogod a chadw dwy (yn ol rhai ffynnonellau, mwy)[3]  ordderch ac hyd at bump o blant[6].

Mae’n debyg bod ei yrfa droseddol wedi dechrau tua’r flwyddyn 1768, pan waeth copïo allweddi i ddrws banc gan ei ddefnyddio i dwyn £800 (ffortiwn ar y pryd). Erbyn 1786 roedd wedi afradu pob dima roedd wedi dwyn yn flaenorol ac o'r etifeddiaeth cafodd ar ol ei dad. I gynyddu incwm ei ladriadau aeth ati i recriwtio criw o dri lleidr i’w cynorthwyo. Y tri oedd John Brown (lleidr oedd wedi dianc o ddedfryd o saith mlynedd o gludiant), George Smith (saer cloeon a oedd hefyd yn rhedeg siop groser yn y Cowgate) ac Andrew Ainslie (crydd).

Ei ddal a’i roi ar brawf[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd yr achos a arweiniodd at gwymp Brodie ym 1788. Roedd wedi trefnu lladrad o swyddfa treth yn stryd Canongate. Methodd y cynllun. Gan ofni y caiff ei ddal a’i grogi gwnaeth Brown cais am bardwn brenhinol yn gyfnewid am dystio yn erbyn ei gynghreiriaid. Cytunwyd ar y cais a rhoddodd enwau Smith a Ainslie i’r awdurdodau (gan ddweud dim ar y cychwyn am ran Brodie yn y drosedd). Cafodd Smith ac Ainslie eu harestio a’u gosod yn y ddalfa i ddisgwyl achos llys. Ar y diwrnod olynol ceisiodd Brodie i ymweld â hwy yn y carchar ond cafodd ei wrthod. Gan sylweddoli na fyddai ceidwad y carchar yn gwrthod cais gan un mor ddylanwadol â chynghorydd y ddinas, oni bai eu bod yn amau rhywbeth, penderfynodd byddai’n rhaid iddo adael Caeredin.

Dihangodd i Lundain ac yna i'r Iseldiroedd gyda’r bwriad o ffoi i'r Unol Daleithiau, ond cafodd ei arestio yn Amsterdam a’i estraddodi’n ôl i Gaeredin ar gyfer sefyll ei brawf.

Cychwynnodd yr achos yn erbyn Brodie a Smith ar 27 Awst 1788. Dim ond tystiolaeth amgylchiadol oedd yn erbyn y ddau, cafwyd hyd i’r offer copïo allweddi mewn gweithdy, ond gan fod dau yn seiri cloeon, hawdd oedd egluro pam bod yr offer yn eu meddiant. Ond wedi ei bradychu gan Brown, penderfynodd Ainsley i droi’n dyst i’r brenin yn gyfnewid am bardwn hefyd, gan enwi Brodie fel pennaeth y giang. Doedd dim gobaith i Brown osgoi’r crocbren oni bai ei fod yntau hefyd yn bradychu Brodie. Gyda thystiolaeth y ddau aelod arall o’r giang yn eu herbyn cafwyd Brodie a Smith yn euog a’u dedfrydu i’r gosb eithaf.

Cafodd Brodie a Smith eu crogi yn yr Hen Dollfa ar Stryd Fawr Caeredin ar 1 Hydref 1788 o flaen torf o 40,000. Claddwyd eu cyrff mewn bedd heb ei farcio yn Eglwys Buccleuch yn Stryd y Capel, sydd bellach yn faes parcio i neuaddau darlith Prifysgol Caeredin. Ond yn ôl un chwedl gwisgodd Brodie goler dur a thiwb arian o dan ei goler i atal y crogi rhag bod yn angheuol. Dywedir ei fod wedi llwgrwobrwyo’r dienyddiwr i sicrhau llwyddiant ei gynllun, a’i bod wedi ei weld yn fyw ym Mharis wedi osgoi ei gosb.

Dylanwad ar ddiwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o gwsmeriaid Brodie oedd tad yr awdur, Robert Louis Stevenson, a brynodd cist o ddroriau ganddo. Mae’r gist i’w weld bellach yn Amgueddfa'r Awduron Caeredin. Ysgrifennodd Stevenson drama am fywyd Brodie o’r enw The Double Life, ond ni fu yn llwyddiannus iawn. Ond gan barhau i gael ei gyfareddu gan y ddeuoliaeth rhwng ffasâd parchus Brodie a'i natur go iawn cafodd ei ysbrydoli i greu un o’i gymeriadau mwyaf poblogaidd Dr Jekyll a Mr Hyde (1886).[7]

Mae prif gymeriad nofel Muriel Spark The Prime of Miss Jean Brodie wedi ei henwi ar ôl diacon Brodie, yn wir mae’r cymeriad yn honni bod yn ddisgynnydd iddo.

Mae Brodie yn cael ei goffáu gan dafarn y Deacon Brodie sy’n sefyll ar Filltir Frenhinol Caeredin ger y castell. Ychydig i lawr y ffordd mae caffi Deacon’s House Cafe sy’n sefyll yn Brodie Close, a oedd yn cynnwys ei gartref teuluol a’i weithdai. Mae yna dafarn yn Ninas Efrog Newydd syn cario ei enw ar 46th Street Restaurant Row.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]