William Bidlake

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pensaer Seisnig oedd William Henry Bidlake (12 Mai 18616 Ebrill 1938), ffigwr arweiniol yn y Mudiad Celf a Chrefft ym Mirmingham a Cyfarwyddwr yr Ysgol Pensaerniaeth yn Ysgol Celf Birmingham rhwng 1919 a 1924.

Ymddangosodd nifer o dai Bidlake yn ardal Birmingham yn llyfr Hermann Muthesius Das englischer Haus ("Y Tŷ Seisnig"), a brofodd yn ddylanwadol yn y Symudiad Cyfoes yn yr Almaen.

Bywyd a gyrfa[golygu]

Ganed Bidlake yn Wolverhampton, yn fab i bensaer lleol, George Bidlake (a roddodd iddo ei hyfforddiant pensaerniol cynnar), ac addygwyd yng Ngholeg Tettenhall a Choleg Crist, Caergrawnt. Ym 1882 symudodd i Lundain i astudio yn Ysgollion yr Academi Frenhinol a gweithiodd i'r benseiri yr Adfywiad Gothig, Bodley a Garner. Yn 1885, enillodd Gymrodoriaeth Teithio Pugin RIBA am ei ddrafftsmonaeth, a alluogodd ef i wario 1886 yn teithio yn yr Eidal.

Dychwelodd i Loegr yn 1887 gan gyfaneddu ym Mirmingham lle sefydlodd yn annibynol, o 1893, arloesodd y dysgu o bensaerniaeth yng Ngholeg Celf Birmingham. Roedd yn enwog am ei aml-deheurwydd; ei dric oedd i ddarlunio gyda'i ddwy law yn gydamserol.

Dyluniodd Bidlake nifer o dai odan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft yn yr ardaloedd o gwmpas Birmingham megis Edgbaston, Moseley a Four Oaks, ynghyd â chyfres o eglwysi â dylanwad Gothig megis Eglwys Santes Agatha, Sparkbrook; caiff yr eglwys hon ei hystyried yn gyffredinol fel campwaith Bidlake.

Priododd Bidlake ddynes dros ugain mlynedd yn ifengach nag ef yn 1924, a symudodd i Wadhurst yn Nwyrain Sussex, lle cariodd ymlaen i weithio hyd ei farwolaeth yn 1938.

Prif weithiau[golygu]

Ffynonellau[golygu]

  1. The Buildings of England: Worcestershire, Nikolaus Pevsner, 1968 p338
  2. The Buildings of England: Worcestershire, Nikolaus Pevsner, 1968 p268
  • Foster, Andy. Pevsner Architectural Guides: Birmingham. Yale University Press: New Haven & London, 2005 ISBN 0-300-10731-5
  • Crawford, Alan (gol.). By Hammer and Hand: The Arts and Crafts Movement in Birmingham. Birmingham Museums and Art Gallery, 1984 ISBN 0-7093-0119-7
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.