Edgbaston

Oddi ar Wicipedia
Edgbaston
Delwedd:Edgbaston Old Church (St Bartholomew).jpg, Edgbaston001.JPG
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Birmingham
Daearyddiaeth
LleoliadBirmingham Edit this on Wikidata
SirGorllewin Canolbarth Lloegr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.4581°N 1.919°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP055845 Edit this on Wikidata
Cod postB15 Edit this on Wikidata
Map

Ardal faestrefol yn Birmingham, yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Edgbaston.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Birmingham, i'r de-orllewin o ganol y ddinas. Mae'n ffinio ar y maestrefi Moseley i'r de-ddwyrain, Selly Oak i'r de-orllewin, Harborne i'r gorllewin, a Smethwick a Winson Green i'r gogledd-orllewin.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y ward etholiad Edgbaston boblogaeth o 18,260.[2]

Yn y 19g roedd yr ardal o dan reolaeth teulu Gough-Calthorpe a theulu Gillott a wrthododd ganiatáu i ffatrïoedd neu warysau gael eu hadeiladu ynddi, gan ei gwneud yn ddeniadol i drigolion cyfoethocaf y ddinas. Heddiw mae'n parhau i fod yn lle cefnog sy'n nodedig am ei mannau agored gwyrdd, coed a gerddi. Mae'n gartref i gampws Prifysgol Birmingham, wyth o'r naw ysgolion annibynnol y ddinas, a Gerddi Botanegol Birmingham. Ceir hefyd nifer o leoliadau chwaraeon, gan gynnwys Maes Criced Edgbaston (lleoliad gemau rhyngwladol a chartref i Clwb Criced Swydd Warwick), Clwb Golff Birmingham, Edgbaston Archery and Lawn Tennis Society, ac Edgbaston Priory Club. Mae yno nifer o eglwysi sylweddol, gan gynnwys Oratori Birmingham, eglwys Gatholig a adeiladwyd ym 1907 fel cofeb i John Henry Newman.

Chwaraewyd y gêm gyntaf o denis lawnt yn Edgbaston, yn gardd tŷ o'r enw "Fairlawn".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 19 Rhagfyr 2020
  2. City Population; adalwyd 19 Rhagfyr 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Gorllewin Canolbarth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.