Wilfred Wooller
| Wilfred Wooller | |
|---|---|
| Ganwyd | 20 Tachwedd 1912 Llandrillo-yn-Rhos |
| Bu farw | 10 Mawrth 1997 Caerdydd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cricedwr, chwaraewr rygbi'r undeb, pêl-droediwr, newyddiadurwr |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | C.P.D. Tref Y Barri, Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Siarcod Sale, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Marylebone Cricket Club, Clwb Criced Morgannwg, Cambridge University Cricket Club, Denbighshire County Cricket Club |
| Safle | Canolwr |
Cricedwr a chwaraewr rygbi, gweinyddwr a newyddiadurwr oedd Wilfred Wooller, mwy adnabyddus fel Wilf Wooler (20 Tachwedd 1912 – 10 Mawrth 1997)[1].
Ganed Wilf Wooller yn Llandrillo-yn-Rhos ger Bae Colwyn. Addysgwyd ef yn Ysgol Rydal a Phrifysgol Caergrawnt. Roedd gyda'r mwyaf amryddawn a gynhyrchodd Cymru erioed ym myd chwaraeon. Bu'n gapten Clwb Criced Morgannwg am 14 mlynedd, gan eu harwain i fuddugoliaeth ym mhencampwriaeth y siroedd yn 1948. Yn ddiweddarach bu'n ysgrifennydd iddynt am 30 mlynedd.
Roedd yn chwaraewr rygbi'r undeb dawnus hefyd, gan chwarae dros Brifysgol Caergrawnt yn 1935 a 1936, a mynd ymlaen i ennill 18 o gapiau dros Gymru. Roedd yn rhan o dîm Cymru a enillodd fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1935. Chwaraeodd beldroed i Gaerdydd hefyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tony Heath (12 Mawrth 1997). "Obituary: Wilf Wooller". Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Medi 2025.