Rydal Penrhos
Gwedd
| Rydal Penrhos | |
|---|---|
| |
| Arwyddair | Veritas Scientia Fides |
| Ystyr yr arwyddair | Gwir, Gwybodaeth, Ffydd |
| Sefydlwyd | 1885 |
| Math | Preswyl, Preifat |
| Cyfrwng iaith | Saesneg |
| Crefydd | Methodistiaeth |
| Pennaeth | Patrick Lee-Browne |
| Lleoliad | Bae Colwyn, Sir Conwy, Cymru |
| Disgyblion | 411 |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Lliwiau | Du ac amber |
| Gwefan | http://www.rydal-penrhos.com/ |
Ysgol breswyl gyd-addysgol breifat ym Mae Colwyn, Sir Conwy yw Rydal Penrhos. Fe'i lleolir ar sawl safel o gwmpas Bae Colwyn a cheir safle yn Llandrillo-yn-Rhos hefyd lle cedwir deunydd chwaraeon dŵr. Mae'n ysgol ffydd Fethodist.
Dechreuodd Rydal Penrhos fel tri sefydliad ar wahân, sef:
- Rydal (yn cynnwys Rydal Preparatory School), ar brif safle Rydal Penrhos heddiw; ysgol i fechgyn ar y dechrau ond aeth yn ysgol gyd-addysgol yn y 1980au.
- Coleg Penrhos (Penrhos College), ysgol breswyl i ferched ger Llandrillo.
- Ysgol Lyndon (Lyndon School) ysgol baratoi breifat ym Mae Colwyn.
Mae cyfran sylweddol o'r disgyblion preswyl yn dod o wledydd tramor.
Cyn-ddisgyblion
[golygu | golygu cod]- Edith Rigby (g. 1870) - ffeminist a swffragét a llosgwr a garcharwyd 7 gwaith
- Wilf Wooller - cricedwr gyda CC Morgannwg a chwaraewr rygbi'r undeb i Gymru (Rydal)
- Syr Geoffrey Elton - hanesydd (Rydal)
- William Roache - actor yn y sebon Coronation Street (Rydal)
- Linus Roache - actor (Rydal)
- Duncan Kenworthy - cynhyrchydd ffilmiau megis Four Weddings and a Funeral a Love Actually (Rydal)
- Bleddyn Williams - Capten Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru gyda 22 cap (Rydal)
- Paula Yates - cyflwynydd teledu (Penrhos)
- Angela Knight - AS Ceidwadol (Penrhos)
- Dafydd Wigley - AS Plaid Cymru dros Gaernarfon o 1974 hyd 2001 ac AC Caernarfon o 1999 hyd 2003. Arweinydd Plaid Cymru o 1991 hyd 2000. (Rydal)
- Mervyn Davies, Barwn Davies Abersoch - cyn fancwr ac aelod cainet llywodraeth y DU
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan yr ysgol Archifwyd 2008-08-07 yn y Peiriant Wayback
