Edith Rigby

Oddi ar Wicipedia
Edith Rigby
Ganwyd18 Hydref 1872 Edit this on Wikidata
Preston Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1950 Edit this on Wikidata
Llandudno, Llanrhos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Loegr ac a fu farw yng Nghymru oedd Edith Rigby (née Rayner; ganwyd 1872) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd milwriaethus a llosgwr. Fe'i carcharwyd 7 gwaith.

Ganed Edith Rayner yn Preston yn 1872 a bu farw yn Llandudno.

Sefydlodd ysgol yn Preston o'r enw "Ysgol Sant Pedr", gyda'r nod o addysgu merched ifanc a hŷn. Yn ddiweddarach daeth yn actifydd amlwg, a chafodd ei charcharu saith gwaith am sawl achos o losgi bwriadol. Roedd yn gyfoeswr i Christabel a Sylvia Pankhurst.[1][2][3][4][5][6] [7]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganed Edith Rayner ar Ddiwrnod Sant Luc (18 Hydref) yn 1872 yn Preston, Swydd Gaerhirfryn, yn un o saith o blant Dr Alexander Clement Rayner. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Penrhos (Rydal Penrhos bellach) yng Nghonwy.[8]

Ymgyrchydd milwriaethus[golygu | golygu cod]

Cymerodd Rigby ran mewn gorymdaith i Balas San Steffan yn Llundain gyda Christabel a Sylvia Pankhurst yn 1908. Arestiwyd 27 o fenywod, gan gynnwys Rigby, a'u dedfrydu i fis o garchar.[8] Yn ystod y cyfnod hwn (a'r dedfrydau dilynol) cymerodd Rigby ran mewn sawl ympryd (streiciau newyn) ac roedd yn cael ei bwydo frwy rym, yn orfodol.[6][8] Roedd ei gweithgarwch dros hawliau merched yn cynnwys plannu bom yn y London Corn Exchange ar 5 Gorffennaf 1913, ac er iddo gael ei ddatgan yn y llys yn ddiweddarach nad oedd 'difrod mawr wedi'i wneud gan y ffrwydrad', cafodd Rigby ei dyfarnu'n euog a'i dedfrydu i naw mis o garchar gyda llafur caled.

Anghytunodd Rigby â phenderfyniad WSPU i beidio ag ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â phleidleisiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymunodd â rhaniad Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod Annibynnol (the Independent Women's Social and Political Union), gan ffurfio cangen yn Preston.[9]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: Oxford Dictionary of National Biography.
  2. Rhyw: Oxford Dictionary of National Biography.
  3. Dyddiad geni: Oxford Dictionary of National Biography.
  4. Dyddiad marw: https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-50080;jsessionid=BD3E1B663916DFBA4221D91097E64218. Oxford Dictionary of National Biography.
  5. Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
  6. 6.0 6.1 Oldfield, Sybil (1994). This Working-day World: women's lives and culture(s) in Britain, 1914–1945. Taylor & Francis. t. 29. ISBN 0-7484-0108-3.
  7. Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography.
  8. 8.0 8.1 8.2 Ashworth, Elizabeth (2006). Champion Lancastrians. Sigma Leisure. tt. 79–82. ISBN 1-85058-833-3.
  9. Smith, Harold L. (2009). The British Women's Suffrage Campaign 1866-1928. Routledge. t. 80. ISBN 978-1408228234.