Geoffrey Elton
Geoffrey Elton | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1921 Tübingen |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1994, 4 Rhagfyr 1994 o trawiad ar y galon Lloegr |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, yr Almaen, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, hanesydd yr oes fodern, hanesydd, academydd, cyfreithiwr |
Cyflogwr | |
Tad | Victor Ehrenberg |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Marchog Faglor |
Hanesydd o'r Deyrnas Unedig o dras Almaenig oedd Syr Geoffrey Rudolph Elton (Gottfried Rudolf Otto Ehrenberg; 17 Awst 1921 – 4 Rhagfyr 1994). Roedd yn athro hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt am ddeugain mlynedd ac yn arbenigo ar gyfnodau'r Tuduriaid a'r Stiwartiaid yn hanes Lloegr, ac hanes cyfansoddiadol a gwleidyddol yn enwedig.
Ganwyd Gottfried Rudolf Otto Ehrenberg yn Tübingen, Baden-Württemberg, yn fab i'r ysgolhaig clasurol Victor Ehrenberg (1891–1976). Penodwyd Victor yn athro hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Almaeneg Prâg yn 1929, ac yno mynychodd Gottfried y Stephans-Gymnasium. Iddewon oedd y teulu Ehrenberg, a symudasant i'r Deyrnas Unedig ychydig wythnosau cyn i'r Almaen Natsïaidd feddiannu Tsiecoslofacia gyfan yn 1939. Aeth Gottfried i ysgol breswyl Rydal ym Mae Colwyn. Nid oedd yn ddigon rhugl yn Saesneg i ennill ysgoloriaeth i astudio hanes ym Mhrifysgol Rhydychen, felly gweithiodd yn athro yn Rydal tra'n astudio cyrsiau gohebol o Brifysgol Llundain. Derbyniodd ei radd hanes yn 1943.[1]
Cafodd ei alw i'r Fyddin Brydeinig yn 1943 a gwasanaethodd yng nghatrodau'r troedfilwyr a chudd-wybodaeth yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei orchymyn gan y fyddin i seisnigo'i enw, a derbyniodd ei ddinasyddiaeth Brydeinig yn 1947. Enillodd ddoethuriaeth o Brifysgol Llundain yn 1947 a chafodd swydd darlithydd cynorthwyol hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 1949. Daeth yn gymrawd Coleg Clare, Caergrawnt yn 1954, a daliodd swydd athro hanes modern Regius yn y brifysgol o 1983 i 1988.[1]
Cafodd ei urddo'n farchog yn 1986. Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yng Nghaergrawnt yn 73 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Wolfgang Saxon, "Sir Geoffrey Rudolph Elton, 73, Tudor Historian at Cambridge", The New York Times (17 Rhagfyr 1994). Adalwyd ar 15 Medi 2019.
- Genedigaethau 1921
- Marwolaethau 1994
- Academyddion yr 20fed ganrif o'r Deyrnas Unedig
- Academyddion Iddewig o'r Deyrnas Unedig
- Academyddion Prifysgol Caergrawnt
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Llundain
- Hanesyddion yr 20fed ganrif o'r Deyrnas Unedig
- Hanesyddion Saesneg o'r Deyrnas Unedig
- Pobl addysgwyd yn Rydal Penrhos
- Pobl o Baden-Württemberg
- Pobl o Brag
- Pobl fu farw yng Nghaergrawnt
- Pobl fu farw o drawiad ar y galon