Tübingen
Golwg ar Tübingen o'r awyr yn 2018. | |
| Math | tref goleg, prif ganolfan ranbarthol, bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, tref ardal mawr Baden-Württemberg |
|---|---|
| Poblogaeth | 92,811 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Boris Palmer |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Aigle, Monthey, Aix-en-Provence, Ann Arbor, Michigan, Durham, Perugia, Petrozavodsk, Kilchberg, Kingersheim, Villa El Salvador District, Moshi |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Tübingen |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 108.12 km² |
| Uwch y môr | 338 metr |
| Gerllaw | Afon Neckar |
| Yn ffinio gyda | Rottenburg-am-Neckar, Gomaringen, Dußlingen, Kusterdingen |
| Cyfesurynnau | 48.52°N 9.0556°E |
| Cod post | 72070, 72072, 72074, 72076 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Boris Palmer |
![]() | |
Tref yn nhalaith Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Tübingen, neu Dibenga (ynganiad: [ˈd̥ib̥ɪŋɐ]) yn yr iaith Alemanneg. Saif ar gymer Afon Neckar ag afonydd Ammer a Steinlach, i'r de o Stuttgart.
Sefydlwyd anheddiad o'r enw Castra Alamannorum o amgylch Hohentübingen, castell Breinieirll Tübingen a sonnir amdani gyntaf ym 1078. Mae'r cofnod hynaf o Tübingen fel tref yn dyddio o 1231. Pwrcaswyd y dref gan Ieirll Württemberg ym 1342, a dyrchafwyd yr iarllaeth yn ddugiaeth ym 1495. Cipiwyd Tübingen gan Gynghrair Swabia ym 1519, ac yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain cwympai i luoedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1634, Sweden ym 1638, a Ffrainc ym 1647.[1]
Sefydlwyd Prifysgol Tübingen gan yr Iarll Eberhard VI ym 1477, a sefydlwyd y coleg diwinyddol Protestannaidd yno gan y Dug Ulrich ym 1534. Bu nifer o enwogion o amryw feysydd yn astudio yn Tübingen, gan gynnwys y seryddwr Johannes Kepler, y bardd Friedrich Hölderlin, yr athronwyr G. W. F. Hegel a Friedrich Wilhelm Joseph Schelling, y diwinydd a dyngarwr Albert Schweitzer, y diwinydd Hans Küng, a'r Pab Bened XVI.
Mae economi Tübingen yn seiliedig ar y diwydiant cyhoeddi, metelwaith, cynhyrchu cemegion a dillad, a thwristiaeth. Ymhlith yr adeiladau o nod mae Hohentübingen, a ailgodwyd fel dug-gastell yn yr 16g; Eglwys Golegol San Siôr, a adeiladwyd yn yr arddull Gothig ym 1470–90, sydd yn cynnwys beddrodau Dugiaid Württemberg; a neuadd y dref sydd yn dyddio o 1435.
Ganwyd y bardd Ludwig Uhland a'r hanesydd Syr Geoffrey Elton yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Tübingen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2021.
